Ymgyrch i gofrestru mwy o bobl ifanc i bleidleisio

Pleidleisio
Image caption Dydd Iau yw Diwrnod Cenedlaethol Cofrestru Pleidleiswyr

Bydd cyfres o ddigwyddiadau ddydd Iau i annog pobl ifanc sy'n gymwys i bleidleisio i wneud yn siŵr eu bod wedi'u cofrestru ar gyfer etholiad cyffredinol mis Mai.

Un o brif amcanion Diwrnod Cenedlaethol Cofrestru Pleidleiswyr yw cael mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn etholiadau.

Mae sefydliad gwleidyddol amhleidiol 'Bite the Ballot' wedi ymuno ag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn yr ymgyrch hon, gan mai myfyrwyr sy'n byw oddi cartref sydd â'r risg mwyaf o golli eu hawl i bleidleisio.

Mae'r Blaid Lafur yn dweud bod 82,000 o bobl wedi 'disgyn 'oddi ar y rhestr pleidleisio yng Nghymru y flwyddyn yma, gan feio cyflwyniad system newydd i gofrestru pleidleiswyr.

Rhaid nawr i bobl gofrestru yn unigol i bleidleisio, ble gyda'r system yn y gorffennol, doedd dim ond rhaid i un person ym mhob tŷ lenwi ffurflen.

Dyletswydd i gofrestru

Mae'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, yn cefnogi'r ymgyrch sy'n annog pobl i gofrestru.

"Mae'n destun pryder bod y newid o gofrestru cartrefi i gofrestru unigolion wedi effeithio ar bobl ifanc yn bennaf," meddai.

Image caption Leighton Andrews

"Gall miloedd fod mewn perygl o golli eu pleidlais oni fydd camau'n cael eu cymryd ar frys. Mae'n ddyletswydd ar bawb ohonom i gofrestru er budd democratiaeth."

Mae Prif Weithredwr Youth Cymru, Helen Mary, yn dweud ei bod yn bwysig bod pobl yn ymwybodol o'r angen i gofrestru i bleidleisio nawr bod y system wedi newid.

"Y neges gennym ni yw, cofrestrwch i bleidleisio a defnyddiwch y bleidlais yna.

"Mae'r penderfyniadau mae gwleidyddion yn eu gwneud nawr yn mynd i effeithio ar ddyfodol Cymru a dyfodol pobl ifanc, a bydd yn rhy hwyr i drio newid pethau os nag ydych chi'n defnyddio'ch pleidlais nawr."

Diffyg hyder?

Mae pryder nad oes gan bobl ifanc yr hyder i bleidleisio, gan nad ydynt yn teimlo eu bod â digon o wybodaeth ar y mater.

Mae Emily Jones yn ddisgybl 18 oed yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryntawe yn Abertawe, a bydd hi'n pleidleisio am y tro cyntaf eleni.

Dywedodd hi: "Mae hyder 'da fi i bleidleisio oherwydd rwy'n teimlo 'mod i'n gwybod digon amdano, ond rwy'n teimlo bod llawer o bobl ifanc ddim yn cael yr hyder i bleidleisio oherwydd nad oes ganddyn nhw ddigon o wybodaeth.

"Os dyw pobl ddim yn pleidleisio, does dim gobaith i chi gael eich cynrychioli."

Pleidlais orfodol?

Yn y cyfamser, mae aelod seneddol Dyffryn Clwyd, Chris Ruane, wedi dweud y dylai pleidleisio gael ei wneud yn orfodol yn y DU.

Dywedodd wrth Sunday Politics Wales y BBC: "Rwy'n meddwl ei fod yn haeddu edrych arno - mae'n gam mawr.

"Efallai y byddai rhai yn dweud bod hyn yn gam yn rhy bell, ond rwy'n meddwl bod cael 14 miliwn o bobl oddi ar y rhestr pleidleisio, a chael 22 miliwn o bobl ddim yn pleidleisio yn gam yn rhy bell yn ôl."