Cymru v Lloegr
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Clwb Rygbi'n cyflwyno Cymru v Lloegr

5 Chwefror 2015 Diweddarwyd 14:48 GMT

Nos Wener mi fydd cystadleuaeth y Chwe Gwlad yn cychwyn gyda un o'r gemau mwyaf yn y bencampwriaeth rhwng Cymru a Lloegr. Cafodd tîm Stuart Lancaster eu trechu y tro diwethaf iddyn nhw ymweld â Stadiwm y Mileniwm. Fydd Cymru'n gallu gwneud yr un peth y tro yma?

Y tro nesa' i Gymru a Lloegr gwrdd, fydd yn Twickenham yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn mis Medi felly bydd y ddau dîm eisiau ennill y gêm yma hyd yn oed yn fwy.

Ymunwch â Clwb Rygbi nos Wener am 19.15 ar S4C lle bydd Ken Owens, Dwayne Peel, Deiniol Jones a Rhys Patchell yn ymuno â'n tim arferol wrth i Gymru herio'r hen elyn.