Llyfrgelloedd: Gwerth eu hachub?

Eurig

Maen nhw wedi rhoi gwasanaeth pwysig i gymunedau ar hyd Cymru ers degawdau ond yn yr oes dechnolegol pa mor bwysig ydi llyfrgelloedd heddiw?

Oherwydd toriadau yng nghyllidebau'r awdurdodau lleol mae na bryder gwirioneddol erbyn hyn bod gormod o lyfrgelloedd yn cau.

Ydyn nhw dal yn berthnasol i bobl ifanc? Gyda'r Kindle a'r iPad mor boblogaidd, oes pwynt i lyfrgelloedd bellach?

A hithau'n Ddiwrnod y Llyfrgelloedd ar 7 Chwefror fe ofynodd Cymru Fyw i'r academydd a'r bardd, Eurig Salisbury am ei farn ar ddyfodol ein llyfrgelloedd:

Ehangu gwybodaeth

Prin yw'r cylchoedd newyddion sy'n mynd heibio heb sôn am lyfrgell yn cau. Pan fo'r esgid fach yn gwasgu, bydd yr awdurdodau'n aml yn sôn am 'ddiogelu gwasanaethau hanfodol'. Fel pe bai sicrhau mynediad at lyfrau yn ddim ond trît i'w fwynhau pan fo'r haul yn tywynnu.

Un o nodweddion unrhyw gymdeithas iach yw ei gallu i sicrhau bod ei thrigolion, o bob oed a chefndir, yn medru darllen ac ehangu eu gwybodaeth. Nid yw anwybodaeth o werth i neb.

Ganllath o ddrws fy nghartref yma yn Aberystwyth, mae Llyfrgell Cyngor Sir Ceredigion.

Yn 2012 symudwyd y llyfrgell o Stryd y Gorfforaeth i hen adeilad colofnog Cyngor y Dref ar Faes y Frenhines, ar waelod Stryd Portland, gan adnewyddu'r cyfleusterau'n llwyr.

Mae'r llyfrgell bellach yn ganolfan bwysig i drigolion y dref ac i ymwelwyr, lle gall pawb ddarllen llyfrau, papurau newydd a chylchgronau yn rhad ac am ddim.

Image copyright Bill Boaden/Geograph
Image caption Mae Llyfrgell Rhiwbeina, Caerdydd ymhlith y llyfrgelloedd sy'n wynebu dyfodol ansicr wrth i doriadau'r cynghorau sir frathu.

'Cyfoeth o wasanaethau'

Mae Llyfrau Llafar ar gael hefyd, yn ogystal â recordiadau sain, mynediad i'r rhyngrwyd a chyfleusterau wifi.

I blant, mae sesiynau darllen a chyfarfod awduron yn cael eu cynnal o dro i dro, ac mae nifer o wasanaethau ar gael ar y we. Tybed faint o bobl, mewn gwirionedd, sy'n ymwybodol o'r cyfoeth o wasanaethau sy' ar gael yno?

Mae llwyddiant y llyfrgell yn dyst i'r galw am wasanaethau cyhoeddus o'r fath yn Aberystwyth, tref y llyfrgelloedd. Hyd yn oed yng nghysgod dwy lyfrgell enfawr ar Riw Penglais, mae llyfrgell y dref yn ffynnu.

Ond mae'r ddau fehemoth ar y bryn, llyfrgell y brifysgol yn adeilad Hugh Owen a'i frawd mawr, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn wynebu llawer o'r un heriau â'r llyfrgelloedd bychain.

Mewn oes pan fo mwy a mwy o bobl yn darllen ar y sgrin, o'r cyfrifiadur i'r ffôn, sut mae diogelu'r gwasanaethau a'r trysorau hyn?

Image copyright Llyfregell Genedlaethol Cymru
Image caption Un o lawysgrifau pwysicaf Cymru, Peniarth 28, Cyfreithiau Hywel Dda, sydd yn cael ei chadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Llawysgrifau hanesyddol

Bob bore rwy'n dringo Rhiw Penglais i'r gwaith yn y Ganolfan Uwchefrydia,u canolfan ymchwil y drws nesaf i'r Llyfrgell Genedlaethol.

Ar hyn o bryd rwy'n rhan o brosiect Cwlt y Seintiau yng Nghymru, sy'n paratoi golygiad cynhwysfawr o fucheddau a barddoniaeth i seintiau o'r Oesoedd Canol.

Mae medru cael mynediad at lawysgrifau sy'n cael eu cadw yn y Llyfrgell Gen yn rhan gwbl hanfodol o'r gwaith, fel yr oedd ar gyfer Prosiect Guto'r Glyn yn y Ganolfan rai blynyddoedd yn ôl.

Ond mae llawer o'r llawysgrifau pwysicaf (fel Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Aneirin) bellach wedi eu digido ac ar gael yn rhad ac am ddim ar wefan y llyfrgell.

Mae medru craffu mewn manylder ar ddelweddau o'r llawysgrifau hyn yn hwyluso fy ngwaith i, a bydd medru dangos cerddi a bucheddau yn eu ffurf wreiddiol ar wefan y prosiect maes o law yn ei chyfoethogi'n fawr.

Paned tra'n darllen?

Y paradocs yw bod darparu mwy a mwy o ddeunyddiau ar lein yn galluogi pobl ym mhob man i ddefnyddio'r gwasanaethau yn rhwydd, heb orfod croesi trothwy'r llyfrgell ei hun.

Sut mae denu pobl drwy ddrysau'r llyfrgelloedd llai? Duw a ŵyr fod gan bobl Aberystwyth hoffter arbennig o gaffis, felly beth am ddilyn arweinaid llyfrgelloedd eraill a rhoi lle i ddarllenwyr sipian eu coffi wrth bori drwy'r tudalennau?

Bu darogan tranc y llyfr ers blynyddoedd, ond mae'n amlwg i mi y bydd yn parhau mewn grym yng Nghymru am hir eto, os caniateir hynny gan yr awdurdodau."

Ydych chi yn poeni am ddyfodol y llyfrgelloedd? Oes na bwynt iddyn nhw wrth i dechnoleg wella drwy'r amser?

Rhannwch eich barn gyda ni ar e-bost cymrufyw@bbc.co.ukneu trwy ddefnyddio ein cyfrif Twitter @BBCCymruFyw

Image copyright Arall
Image caption Paned a llyfr: Y ffordd ymlaen i lyfrgelloedd Cymru?