Saith Diwrnod

Eisteddfod

Mae Saesnes yng Nghymru yn flog hwyliog newydd gan wraig o Surrey, sef, fel y dywed hi ei hun, gwlad y welington gwyrdd a'r Chelsea Tractor.

Lle ceidwadol dros ben (gydag 'c' fawr ac 'c' fach), a lle y llwyddodd i gyrraedd 25 oed heb fod yn ymwybodol bod yr iaith Gymraeg yn bodoli.

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach mae'n briod â Chymro ac yn magu ei phlant yng Nghymru. Diddorol yw gweld y diwylliant Cymraeg o'i phersbectif hi - pe tasen i wedi cael fy magu yng Nghymru, meddai, fe fydden i wedi bod ar y llwyfan yn prancio ac yn glaswenu yn gynt na chi'n gallu gweud "plentyn gwrthun".

Ond mae'n dal i fethu cael ei phen rownd yr holl fusnes Eisteddfod - y tro cyntaf y clywodd gyd-adrodd, wnaeth e godi'r arswyd arni - mae'n gallu swnio'n spooky iawn, meddai.

Ydi, mae hwnna'n un gair i'w ddisgrifio. Ond mae'n gweld Eisteddfota'n beth aruthrol - hudol hyd yn oed - ac yn ddathliad arbennig o hunaniaeth.

Image caption Simon Brooks

Dyma agwedd fydd wrth fodd calon Simon Brooks. Mewn erthygl yn Barn ar ôl darllen cyfrol Huw Edwards am gapeli Cymraeg Llundain, dywed Simon fod rhaid i bobl ddewis eu bro, trigo ynddi, a chyfrannu yn ôl eu gallu.

Mae llawer gormod o bwyslais yn y diwylliant Cymraeg, meddai, ar fro mebyd ar draul pwysigrwydd bro ein preswyliad fel oedolion. Pobl Caerdydd sy'n trigo yng Nghaerdydd, nid pobl Môn, Ceredigion, Maldwyn, Gwynedd a Sir Gâr wedi mynd ar eu gwyliau.

Nid yw eistedd mewn parlwr ffrynt yng Nghaerdydd neu Lundain yn dolefain am y Fro Gymraeg yn gwneud lles i neb na dim.

'Cadw'r iaith yn fyw'

Ond yn ôl yng nghefn gwlad, mae cryn ddolefain yn sgil y cyhoeddiad fod grant mudiad y Ffermwyr Ifanc am gael ei dorri. Mae Bethan Gwanas yn yr Herald yn gandryll - roedd ei gwaed yn berwi, meddai, pan glywodd y newyddion.

Toriad yn y grant gan Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd wedi gwario cryn dipyn ar gerbydau a siacedi newydd efo'r lliw a'r logo newydd i bawb sy'n gweithio iddyn nhw, a thoriad mwy fyth gan gorff sy'n cynnig arian craidd i gefnogi mudiadau ieuenctid gwirfoddol, fel yr Urdd, y Sgowtiaid a Gwobr Dug Caeredin, ond nid y Ffermwyr Ifanc bellach.

Mae Bethan yn holi pwy sydd ar y pwyllgorau sy'n gwneud penderfyniadau. Tasen nhw'n gwybod unrhyw beth am gymunedau cefn gwlad Cymru mi fydden nhw'n gwybod mai'r Ffermwyr Ifanc sy'n cadw'r iaith yn fyw yma, yn cadw pobl ifanc yn eu bröydd.

Mae cymunedau cefn gwlad yn dirywio ar gyflymdra eithriadol, meddai, ac mae'n hen bryd i'r pwysigion sy'n byw'n gyfforddus yn ardal Caerdydd sylweddoli hynny.

Ac mae Gwilym Owen yn Golwg yn cytuno, gan alw ar y rheiny sydd o ddifrif dros gynnal yr iaith yn eu gwahanol gymunedau gwledig fynd ati rhag blaen i brotestio a thynnu sylw at y bwriad gwallgof i atal y grantiau.

Gallai'r penderfyniad rhyfeddol hwn olygu diswyddo staff a drwgdeimlad mawr yng ngweinyddiaeth ac effeithiolrwydd mudiad pobol ifanc sydd mor llwyddiannus ac afieithus ar hyd a lled Cymru ac o dragwyddol bwys yn y gymdeithas wledig Gymreig.

Ond yn ôl at afiaith y Saesnes yng Nghymru i orffen. Mae ei brawd yn edmygu - yn amharod - y ffaith bod ei phlant yn ddwyieithog, ond yn gofyn yn aml: "'So't ti'n meddwl bydde Tsieinëeg yn fwy defnyddiol iddyn nhw?"

"Wel dim rili," yw ei hymateb, "Prin iawn yw siaradwyr Tsieinëeg yng Nghaerfyrddin." O na fyddai pob mewnfudwr yn rhannu'r un weledigaeth.