Edrych tua'r sêr

6 Gwlad Image copyright Getty Images

Wedi'r holl ddisgwyl a'r dyfalu mae diwrnod agoriadol Pencampwriaeth y 6 Gwlad wedi cyrraedd. Gareth Charles, Gohebydd Rygbi BBC sy'n asesu sut her fydd y Saeson yn ei chyflwyno i wŷr Warren Gatland.

Profiad

Ma' na gelwydd, celwydd noeth ac ystadegau medde nhw. Ond credwch e neu beidio wrth i ni edrych 'mlaen at ddechrau dramatig i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad mae'r ystadegau i gyd o blaid Cymru.

Image copyright Huw Evans picture agency

Bron i fil o gapiau yng ngharfan Cymru - bron i ddwywaith yn fwy na Lloegr; mae un ar ddeg o Lewod yn dechrau'r gêm i Gymru - dim ond dau sydd gan y Saeson; mae dros ddwsin o brif chwaraewyr Lloegr yn ishe, does yr un Cymro; dim ond unwaith mae Lloegr wedi ennill yng Nghaerdydd yn y degawd diwetha'.

Does rhyfedd mai Cymru yw'r ffefrynnau. Ond nid ar ffigurau mae gêm yn cael eu hennill, nac ar emosiwn chwaeth a bydd mwy na digon o hwnna'n llifo ar hyd strydoedd ac yn tasgu drwy atmosffer trydanol Nos Wener oer o Chwefror yng Nghaerdydd!

Llwyddiant dan bwysau

Dawn, ymroddiad a'r gallu i berfformio hyd yr eitha' dan bwysau rhyfeddol ddaw a llwyddiant - a dyna'n union ddaeth a llwyddiant i Gymru o dan amgylchiadau od o debyg ond hollol wahanol y tro diwetha' i ni fod yma ddwy flynedd nol.

Image copyright Getty Images

Y storm berffaith - blaenwyr Cymru'n rheoli'r agweddau tynn a rhydd, yr olwyr ar eu dinistriol gryfa' a Lloegr yn cael eu chwalu o record o sgôr. Mae'n werth cofio bod Lloegr yr un mor glinigol yn dosbarthu Cymru yn Twickenham llynedd dim ond er mwyn cadw traed pawb ar y ddaear.

Oherwydd does dim ots yn y pen draw am yr ystadegau mae gan Loegr stôr enfawr o chwaraewyr i ddewis ohono, mae'n dal yn dîm cryf ac mae Cymru'n nodedig am ddechrau'n araf.

Dyna fawredd chwaraeon allwch chi ddim proffwydo i sicrwydd ond gyda Roberts, North a Cuthbert i herio canol cae amhrofiadol Lloegr gyda George Ford yn cael ei brofi ym merw'r Mileniwm am y tro cynta'.

Gydag Alun Wyn a Gethin yn dal i ysbrydoli'r blaenwyr a Samson gobeithio'n driw i'w enw a sgwaru'r sgrym - mae hawl hyd yn oed gan besimist i freuddwydio, ac ar noson pan fydd y to ar agor i edrych tua'r sêr i ddechrau pencampwriaeth sy'n addo gymaint o gyffro.

Gallwch weld rhagor o gynnwys Pencampwriaeth y 6 Gwlad ar Cymru Fyw.

Image copyright Getty Images