Sam Warburton a Dot Davies
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cymru v Lloegr: Sut mae Sam a'r bechgyn yn teimlo?

6 Chwefror 2015 Diweddarwyd 11:32 GMT

Cyn gêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, Dot Davies sydd wedi bod yn holi Sam Warburton, Jamie Roberts ac eraill o garfan rygbi Cymru i weld sut mae'r hwyliau.

Gyda Warburton yn ennill ei hanner canfed cap, mae'r chwaraewyr yn gobeithio am ganlyniad tebyg i ddwy flynedd yn ôl pan wnaeth Cymru drechu Lloegr o 27 pwynt.

Ymunwch â Clwb Rygbi nos Wener am 19.15 ar S4C lle bydd Ken Owens, Dwayne Peel, Deiniol Jones a Rhys Patchell yn ymuno â'n tîm arferol wrth i Gymru herio'r hen elyn.