Cymru 16-21 Lloegr

Cais Lloegr Image copyright AFP

Dechrau siomedig i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad wrth i Loegr drechu Cymru mewn gêm agos, a chyffrous.

O fewn dau funud aeth Cymru ar y blaen diolch i gic gosb gan Leigh Halfpenny, ac mewn ychydig mwy na phum munud arall roedd Rhys Webb wedi sgorio cais i ychwanegu at gyfanswm y tîm cartref.

Nid oedd mantais y Cymry o 10 pwynt am barhau'n hir wrth i Anthony Watson sgorio cais i'r ymwelwyr, ond methiant fu hanes y trosiad.

Ychwanegodd Halfpenny dri phwynt arall i gyfanswm Cymru, cyn i George Ford wneud yr un fath i Loegr, gyda chic gosb lwyddiannus.

Ac yn yr eiliadau olaf cyn diwedd yr hanner cyntaf ychwanegodd Dan Biggar dri phwynt i gyfanswm Cymru gyda gôl adlam, i wneud y sgôr yn 16-8.

Lloegr gafodd y cychwyn delfrydol i'r ail hanner wrth i Jonathan Joseph sgorio cais ac i Ford lwyddo gyda'r trosiad i gwtogi mantais y Cymry i un pwynt yn unig.

Ac aeth pethau o ddrwg i waeth i Gymru wrth i Alex Cuthbert dderbyn cerdyn melyn a chael ei anfon i'r gell gosb, cyn i Ford roi Lloegr ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm diolch i gic gosb lwyddiannus.

Ychwanegodd Ford dri phwynt arall i gyfanswm Lloegr ym munudau olaf y gêm, gan olygu buddugoliaeth o 16-21 i'r ymwelwyr.

Mae 'na ragor o gynnwys am Bencampwriaeth y Chwe Gwlad ar Cymru Fyw.