Rhybudd i gadw blodau a bwyd ar wahan mewn siopau

Cennin Pedr Image copyright Paul Wilde

Mae archfarchnadoedd yn cael eu hannog i gadw cennin Pedr oddi wrth ffrwythau a llysiau mewn siopau, rhag ofn i bobl eu bwyta.

Iechyd Cyhoeddus Lloegr sydd wedi cyhoeddi'r rhybudd, sy'n cael ei gefnogi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae'r awdurdodau yn poeni y gall bobl feddwl bod y blodau yn fath o nionyn neu lysieuyn Tsieineaidd.

Mae'r blodau yn cynnwys gwenwyn all achosi i bobl fod yn sâl.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Lloegr bod 27 achos o wenwyno o ganlyniad i fwyta'r blodau'r llynedd.