Justin Edinburgh yn gadael Casnewydd i reoli Gillingham

Justin Edinburgh Image copyright Getty Images

Mae clwb pêl-droed Gillingham wedi penodi Justin Edinburgh fel eu rheolwr ar ôl cytuno ar iawndal gyda chlwb Casnewydd.

Mae Edinburgh, 45, wedi arwain Casnewydd o'r Gyngres yn 2013 ac mae'n eu gadael yn y chweched safle yn yr Adran 2.

Jimmy Dack a Wayne Hatswell sydd wedi cymryd rheolaeth dros Gasnewydd am y tro.

Roedd Gillingham, sy'n yr 18fed safle yn Adran 1, heb reolwr ar ol i Peter Taylor adael y swydd ddiwedd Rhagfyr.