Treth stamp: Cychwyn cyfnod ymgynghori

Tai ar werth

Bydd cyfnod ymgynghori o 12 wythnos yn cychwyn ddydd Mawrth wrth i ddogfen gael ei chyhoeddi yn nodi'r dewisiadau posib ar gyfer Llywodraeth Cymru pan fydd yn derbyn y pŵer dros dreth stamp yn 2018.

Ni fydd argymhellion penodol ynglŷn â chyfradd y dreth na'r bandiau treth yn cael eu gwneud.

Mi wnaeth y rheolau yn ymwneud â threth stamp newid yn sylweddol yn dilyn Datganiad yr Hydref George Osborne llynedd.

Penderfynodd y Canghellor gael gwared ar y system 'slab', ble'r oedd y swm oedd yn rhaid ei dalu yn cynyddu ar bwyntiau penodol, gan yn hytrach gyflwyno system gyda chyfradd raddedig sy'n gweithio mewn modd tebyg i'r system treth incwm.

10% ar dai dros £935,000

Dan yr hen system, roedd 1% o dreth stamp i'w dalu ar dai dros £125,000, 3% ar gartrefi dros £250,000 a 4% ar eiddo dros £500,000.

Roedd cyfradd treth stamp yn effeithio ar gyfanswm pris yr adeilad, felly pe bai rhywun yn prynu tŷ am geiniog yn fwy na £250,000, byddai'n rhaid talu'r dreth o 3% ar gyfanswm cost yr adeilad.

Mae'r system newydd yn golygu bod y gyfradd ddim ond yn effeithio ar y rhan o bris y tŷ sydd dros y trothwy ar gyfer y band hwnnw.

Felly ar gyfer y tŷ sy'n gwerthu am geiniog dros £250,000, ni fydd y prynwr yn talu unrhyw dreth hyd at £125,000, ac yna 1% rhwng £125,000 a £250,000.

Ond mae cyfraddau uwch ar gyfer tai drytach, gyda 10% ar gyfer adeiladau dros £935,000.

Dilyn enghraifft Yr Alban?

Mi wnaeth y newidiadau gael gwared ar beth fyddai wedi bod yn rhan fawr o'r newidiadau i'r system yng Nghymru.

Roedd Jane Hutt, Gweinidog Cyllid a Busnes Llywodraeth Cymru, eisoes wedi awgrymu ei bod hi am gael gwared ar y system 'slab'.

Felly beth fydd Llywodraeth Cymru yn wneud nawr?

Gall wneud dim a gadael y system yr un peth â honno yn Lloegr.

Neu fe fyddai modd i Gymru ddilyn enghraifft Yr Alban ble maen nhw'n bwriadu codi'r trothwy ar gyfer talu'r dreth i £145,000 pan gaiff y dreth ei datganoli ym mis Ebrill eleni. Bydd rhai newidiadau hefyd yn cael eu gwneud i'r bandiau uchaf yn Yr Alban.

£145m i'r coffrau

Mae'r dreth stamp yng Nghymru dod â thua £145m i'r coffrau. Mae hi'n dreth fechan sy'n effeithio ar 50,000 o weithredoedd o brynu a gwerthu tai bob blwyddyn, ond hon fydd y dreth gyntaf i gael ei datganoli yn ei chyfanrwydd i Lywodraeth Cymru.

Mae sawl dewis posib, ond mae hi'n debygol mai'r opsiynau fydd yn cael eu hystyried fydd codi'r trothwy ar gyfer cychwyn talu'r dreth ac yna adennill y gost o wneud hynny drwy gynyddu'r cyfraddau uchaf.

Ond yng Nghymru, oherwydd bod cyn lleied o dai yn gwerthu am dros £1m, ni fyddai'r cyfraddau treth stamp uchaf, o reidrwydd, yn codi llawer o arian.

Yn Yr Alban maen nhw wedi penderfynu bod y gyfradd o 10% yn effeithio ar dai dros £325,000.

Straeon perthnasol