Mwy mewn dyled yng Nghymru

Mae 'na gynnydd o 23% wedi bod mewn dyledion personol yng Nghymru yn y flwyddyn ddiwethaf, a mwy a mwy o bobl yn gofyn am gymorth, yn ôl un elusen. Nawr, mae pryder y gallai rheolau newydd wthio rhai i fynd at fenthycwyr anghyfreithlon.

Ar raglen Week In Week Out BBC Cymru nos Fawrth, mae Peter Tutton, pennaeth polisi'r elusen ddyled StepChange, yn dweud fod "cartrefi yn cael trafferth ymdopi gyda chyflogau segur a chostau cynyddol. Er bod yr economi'n dechrau ail-wampio rhyw fymryn, 'dy ni'n dal i weld mwy a mwy o bobl yn gofyn am gyngor dyled. Mae nifer y bobl 'dy ni'n weld yng Nghymru wedi cynyddu mwy na 20% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf."

Mae cwmnïau benthyciadau byrdymor wedi cael eu beio am fwydo'r argyfwng dyled - am iddyn nhw ei gwneud hi mor hawdd i bobl fenthyg arian, a hynny gyda chyfraddau llog enfawr.

Fis diwethaf, fe ddaeth cap credyd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol i rym - er mwyn rhwystro cwmnïau benthyg byrdymor rhag codi llog enfawr ar bobl.

Mae'r cap wedi cael ei groesawu gan elusennau ac Archesgob Caergrawnt, ond mae e'n rhybuddio y gallai pobl gael eu denu gan siarcod benthyca oherwydd y rheol newydd.

Image caption Mae Emily Robrets a'i mam wedi benthyg bron i £1,500 rhyngddyn nhw

Mae Emily Roberts yn 20 oed. Mae'n byw yng Nghaernarfon gyda'i phartner, Dan.

Fe gymrodd hi a'i mam, Vanessa fenthyciadau gan gwmni benthyg byrdymor i dalu am y Nadolig.

Mae'n dweud y byddai hi wedi ei chael hi'n anodd i gael benthyciad fel arall. Mae ganddi gredyd gwael, ac mae hi a'i phartner ar incwm isel. Mae hi yn fam llawn amser a Dan yn gweithio rhan amser mewn siop leol. Mae ei oriau'n amrywiol ac mae e'n ennill rhwng £130 a £200 y mis fel arfer.

Mae hi a'i mam wedi benthyg bron i £1,500 rhyngddyn nhw ac yn talu'n ôl dros gyfnod o fisoedd - 32 wythnos yn achos ambell fenthyciad. Mae'r llog (APR) dros 1000%.

Er iddi ddweud fod "pethau'n mynd yn o lew ar y funud", wrth edrych yn ôl, doedd cymryd benthyciad o'r fath "ddim y peth gorau i'w wneud o gwbl."

"'Swn i'n gallu mynd yn ôl mewn amser, 'swn i heb gymryd y benthyciad," meddai. "Ond ar y pryd, 'nes i wneud be' oedd rhaid i fi wneud i gael yr arian i gael Nadolig da."

Yn ôl Chris Pond o'r Comisiwn Cynhwysiant Ariannol, mae'r cap wedi arwain at ostyngiad yn y credyd fforddiadwy sydd ar gael ledled y DU.

Fe ddywedodd wrth Week In Week Out: "Er bod yr arian sydd ar gael wedi gostwng, dyw'r galw am fenthyciadau yn ddim gwahanol. Mae'r galw'n dal i gynyddu. I'r perwyl hwnnw, mae'r siarcod anghyfreithlon yn mynd i fod ar eu hennill."

I lawer, mae undebau credyd yn datrys eu problemau. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £7.7m o grantiau i'r undebau ers 2009. Ond mae 'na bryder na all yr undebau credyd gau'r bwlch sy'n cael ei adael gan y rheolau llym ar gwmnïau benthyg byrdymor.

Dywedodd Mr Pond: "Mae undebau credyd yn cael ei gweld fel sefydliadau hen ffasiwn. Os oes rhai i chi fynd i mewn i swyddfa, eistedd o flaen rhywun, cyfiawnhau pam fod angen yr arian ychwanegol 'ma arnoch chi... dyw pobl ddim eisiau gwneud hynny."

Mae Lesley Griffiths, a Gweinidog Cymunedau a Thaclo Tlodi yn cyfaddef bod angen i undebau credyd wneud mwy i ddenu cleientiaid.

Fe ddywedodd: "Fe hoffwn i eu gweld nhw allan yn y gymuned. Pan 'dy chi'n gofyn i bobl ydyn nhw'n gwybod am undebau credyd, yn anffodus, dydyn nhw ddim yn gwybod amdanyn nhw."

Week In Week Out, 10 Chwefror, BBC1 Wales 10.35pm