£2.6m i ddwy dref yng Ngwynedd a Môn

Adeilad Wilkins, Dolgellau Image copyright Cronfa Dreftadaeth y Loteri
Image caption Adeilad Wilkins yn Nolgellau ddoe a heddiw - mewn ardal sydd i elwa o'r arian

Mae canol tref hanesyddol yng Ngwynedd a stryd mewn porthladd ym Môn yn mynd i elwa o arian adnewyddu gwerth £2.6m.

Mae rhai o'r 180 o adeiladau hanesyddol sydd wedi eu rhestru yn Nolgellau wedi ennill £1.1m o arian Cronfa Dreftadaeth y Loteri, gyda £1.6m yn mynd i Gaergybi.

Bydd yr arian yn Nolgellau'n diogelu tri sgwâr hanesyddol y dref, tra bydd Cyngor Môn yn gobeithio ail-greu rhai o adeiladau coll Caergybi trwy ddefnyddio lluniau archif.

Dywedodd Jennifer Stewart, pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru: ''Rydym eisiau help i roi hwb economaidd i Ddolgellau a Chaergybi, a'u helpu i weithio gyda busnesau bach a chymunedau i ddiogelu a dod a'u treftadaeth a'u hadeiladau unigryw yn fyw.

''Mae'r adeiladau hyn yn creu gwead hanes ei hun.''

Image copyright Cronfa Dreftadaeth y Loteri
Image caption Adeilad gwag yng Nghaergybi