Gatland yn cyhoeddi tîm Cymru

Warren Gatland Image copyright Getty Images

Wedi'r siom o golli yn erbyn Lloegr yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, mae Warren Gatland wedi enwi'r tîm fydd yn wynebu'r Alban yng Nghaeredin brynhawn Sul.

Mae Gatland wedi penderfynu rhoi ei ffydd yn y chwaraewyr gollodd yng Nghaerdydd ddydd Gwener, gan wneud un newid yn unig i'r tîm ddechreuodd yn erbyn Lloegr, gyda Liam Williams yn cymryd lle George North ar yr asgell chwith

Y Tîm

Cymru: Leigh Halfpenny, Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, Liam Williams, Dan Biggar, Rhys Webb; Gethin Jenkins, Richard Hibbard, Samson Lee, Jake Ball, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Sam Warburton (C), Taulupe Faletau.

Eilyddion: Scott Baldwin, Paul James, Aaron Jarvis, Luke Charteris, Justin Tipuric, Mike Phillips, Rhys Priestland, Scott Williams.

Mae' na ragor o gynnwys am Bencampwriaeth y 6 Gwlad ar Cymru Fyw.