Lefel Ym

Ces i dipyn o sioc y dydd o'r blaen o glywed mai dim ond hanner dwsin o ddisgyblion sy'n astudio ar gyfer arholiad Lefel A Cymraeg yn un o ysgolion Cymraeg Caerdydd. Dydw i ddim yn sicr os ydy'r nifer yna'n anarferol o fach ond mae hi'n ymddangos yn arswydus o isel i mi. Ond a'i ffenomen leol yw hon? Beth am droi at ystadegwyr y Llywodraeth er mwyn cael darlun cyflawn?

Yn ôl eu ffigyrau nhw, safodd 11,447 o'n pobol ifanc arholiadau Lefel A, neu Safon Uwch yn y jargon cyfredol, yn 2014. O'r rheiny, astudiodd 252 y Gymraeg fel iaith gyntaf ac fe safodd 305 arholiad ail iaith. Er cymhariaeth, safodd cyfanswm o 616 o fyfyrwyr arholiadau mewn ieithoedd tramor yn 2014 a chyn i chi ofyn fe safodd 2,567 arholiad Lefel A Saesneg.

Nawr, mae'n gwleidyddion yn poeni'n gyson am y niferoedd bychan sy'n astudio ieithoedd tramor yn ein hysgolion. Ond ddylai'r nifer isel sy'n dewis y Gymraeg hefyd fod yn destun pryder?

Y cwestiwn amlwg yw pam bod cyn lleied o fyfyrwyr yn dewis Cymraeg fel pwnc chweched dosbarth? Mae 'na sawl ateb posib ac mae un ohonynt yn un sydd wedi peri pryder i mi ers peth amser.

Mae unrhyw un sy'n gweithio yn y cyfryngau Cymraeg yn gyfarwydd â'r ffenomen o siaradwyr rhugl yn gwrthod ymddangos ar radio neu deledu gan honni nad yw eu Cymraeg yn 'ddigon da'. Mae 'na elfen ranbarthol yn perthyn i'r peth. Anaml iawn y mae'n digwydd yn y gogledd neu'r Gymru wledig. Ar y llaw arall, mae'n hynod gyffredin yn y de diwydiannol, mewn llefydd fel Dyffryn Aman a Chwm Tawe. Am ba bynnag reswm mae llwyth o drigolion yr ardaloedd hynny yn credu bod eu Cymraeg rhywsut yn ddiffygiol neu'n eilradd.

Mae'r darlledwyr wedi ceisio mynd i'r afael â'r broblem ers blynyddoedd. Dyna pam y mae pencadlys Tinopolis yn Llanelli, er enghraifft. Y pryder sydd gen i yw bod carfan arall o siaradwyr Cymraeg â chymhlethdod israddoldeb ynghylch eu hiaith wedi datblygu y tu ôl i'n cefnau.

Hanner canrif yn ôl yng nghoridorau Maes Garmon a chabannau pren Rhydfelen dechreuodd tafodieithoedd Cymraeg newydd ddatblygu. Tafodieithoedd ysgolion Cymraeg y dwyrain yw'r rhain ac mae nhw wedi merwino clust sawl athro ar hyd y blynyddoedd!

Erbyn hyn mae 'na drydedd genhedlaeth o blant yn siarad Rhydfeleneg ac mae'r Wynllyweg ar wefusau ail genhedlaeth o blant Gwent ond pa mor aml y clywir yr acenion hynny ar ein setiau teledu neu radio? Dim llawer. Pa neges y mae hynny'n danfon i bobol ifanc y dwyrain ynghylch eu mathau nhw o Gymraeg? Ydy hi'n rhyfeddod nad ydynt yn hyderus ynghylch astudio'r Gymraeg yn y chweched dosbarth?

Dim ond codi cwestiwn ydw i yn fan hyn, neu o ddweud hynny yn fy Rhydfeleneg orau, fi jyst mofyn gofyn!