Saith Diwrnod

Eurig Salisbury
Image caption Mae llyfrgelloedd yn rhan hanfodol o gymdeithas iach, yn ôl Eurig Salisbury

Y penwythnos diwethaf cynhaliwyd protest yng Nghaerdydd yn erbyn cynnig y Cyngor i gwtogi'r gwasanaethau llyfrgell, cyn iddo gael ei dynnu'n ôl yr wythnos hon.

Fel y dywed Eurig Salisbury ar wefan Cymru Fyw, prin yw'r cylchoedd newyddion sy'n mynd heibio heb sôn am lyfrgell yn cau. Pan fo'r esgid fach yn gwasgu, bydd yr awdurdodau'n aml yn sôn am 'ddiogelu gwasanaethau hanfodol'. Fel pe bai sicrhau mynediad at lyfrau yn ddim ond trît i'w fwynhau pan fo'r haul yn tywynnu.

Yn ôl Eurig, un o nodweddion unrhyw gymdeithas iach yw ei gallu i sicrhau bod ei thrigolion, o bob oed a chefndir, yn medru darllen ac ehangu eu gwybodaeth. Nid yw anwybodaeth o werth i neb.

Pan oedd yn grwtyn ifanc yn Llanelli, roedd llyfrgell y dref yn hynod o bwysig i Cris Dafis hefyd, fel y dywed yn Golwg. Roedd yn ddarllenwr brwd, ac o'r llyfrgell yr oedd yn cael ei lyfrau i gyd. Gyda gofid mawr felly mae yntau wedi bod yn gwrando ar nifer o awdurdodau lleol Cymru'n trafod cwtogi ar y gwasanaethau.

Ond pe bai Cris yn onest, mae blynyddoedd mawr ers iddo fentro dros drothwy llyfrgell o wirfodd, a dywed mai agwedd ddigon sentimental sydd gan lawer ohonom, a rhyw ymlyniad dall at y syniad o lyfrgelloedd yn addysgu ac yn cyfoethogi cymdeithas.

Lle gynt yr oedd angen trip i'r llyfrgell, mae byd o wybodaeth ar gael i ni nawr drwy agor cyfrifiadur yn unig.

Efallai, yn ôl Cris, fod cwtogi arnyn nhw'n ffordd gymharol ddi-boen o arbed arian.

Enwau yn 'dychryn'?

Gyda phrinder meddygon hefyd yn y newyddion, roedd hi'n hen bryd cael trafodaeth ynghylch y niwed y mae enwau Cymraeg yn ei wneud i economi a safon bywyd yn ôl Lefi Gruffudd yn y Western Mail, a'i dafod yn sownd yn ei foch.

Mae'r Athro Gallen yn llygaid ei le meddai, fod enwau ein hymddiriedolaethau iechyd yn 'dychryn' a 'chymysgu' darpar weithwyr dosbarth canol o Loegr.

Dychmygwch yr estroniaid yma yn y fath ferddwr meddyliol yn gorfod wynebu'r ansicrwydd o ddelio gyda siaradwyr Cymraeg, a mynd i lefydd lle na fydd gobaith eu hynganu, heb sôn am gael ryw glem am ddaearyddiaeth ardal mor ddiarffordd.

Image caption Taith gerdded cynhadledd Mynyddoedd Pawb o Gwm Cynllwyd i Ddinas Mawddwy

Ar y llaw arall, y penwythnos diwethaf hefyd cynhaliwyd cynhadledd Mynyddoedd Pawb, i drafod pryderon bod enwau Cymraeg ar lefydd yn cael eu colli.

Mae o wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd wrth gwrs, medd Bethan Gwanas yn yr Herald, i wneud pethau'n haws i ymwelwyr Oes Fictoria (ie, a meddygon yr unfed ganrif ar hugain o bosib).

Ond mae'n warth, meddai, fod hyn yn dal i ddigwydd, a phethau fel 'Nameless Cwm' ar fapiau Ordnans ardal Cwm Idwal, am fod rhywun wedi bod yn rhy ddiog i holi'n iawn, a'r enw sy'n bod ers canrifoedd 'Cwm Cneifion' yn mynd ar goll.

Ond beth am eiriau Cymraeg mwy diweddar, a, fentrwn ni ddweud, y broblem mae treiglo'n gallu ei hachosi? Yn ôl Androw Bennett, sy'n cyfrannu colofnau ar chwaraeon i'r Cymro, mae treiglo'r llythyren 'g' yn gallu bod yn drafferthus.

Fe allai defnyddio 'olwr' mewn rygbi a 'golwr', wedi'i dreiglo'n 'olwr' mewn pêl-droed ddrysu'r darllenydd, ac wrth gwestiynu a ddylid arddel y syniad o dreiglo pob gair, hyd yn oed rhai estron, er mwyn cadw 'purdeb' y Gymraeg, mae'n dyfynnu brawddeg sydd wedi gwneud iddo chwerthin drosodd a thro, 'Awn i Orseinon am êm o olff'.

Hmm, na, dwi ddim yn meddwl.