Mathew Davies yn cyrraedd Cymru o garchar yn Indonesia

Matthew Davies
Image caption Mathew Davies yn cyrraedd y maes awyr nos Iau

Mae dyn 25 oed gafodd ei garcharu yn Indonesia am dorri rheolau visa wedi dychwelyd i Gymru.

Cafodd Mathew Davies, o'r Coed Duon, Caerffili, ei ddedfrydu i chwe mis dan glo yn 2014.

Cafodd ei garcharu yng ngharchar Cipinang yn Jakarta.

Dywedodd ei fod yn "hapus iawn" i fod adref ar ôl cyrraedd Maes Awyr Caerdydd nos Iau.