Ceisio dod o hyd i berchnogion gwreiddiol hen Feibl

Beibl
Image caption Cafodd y Beibl ei argraffu yn 1873

Mae elusen yn Wrecsam yn gobeithio dychwelyd Beibl hynafol i berthnasau'r teulu oedd yn berchen arno.

Mae'r Beibl, gafodd ei argraffu yn Llundain yn 1873, yn cynnwys ysgrifiadau gan aelodau'r teulu wrth iddo gael ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.

Mi gyrhaeddodd un o siopau elusen Nightingale House yn Wrecsam gyda thrugareddau eraill yn ddiweddar.

Mae'n ymddangos iddo gael ei gyflwyno'n gyntaf gan y Parchedig John Owens, Llanuwchllyn, i ŵr o'r enw John Parry, Tanymaes, Llanfihangel yn Sir Drefaldwyn - a hynny'n fuan ar ôl cyhoeddi'r Beibl.

Mae'r cofnod diwethaf yn 1961 yn dangos bod y Beibl yn eiddo i ŵr o'r enw Arthur Wyn Lloyd o'r Hendre, rhwng Dinbych a'r Wyddgrug.

Yn ôl Eluned Griffiths, Cadeirydd Ymddiriedolwyr yr elusen: "Dydyn ni ddim yn gwybod pam [y daeth i feddiant yr elusen]. Falle taw rhywun oedd yn edrych ar ei ôl, ac yna dod ag ef i mewn atom ni.

"Falle nad yw'r teulu'n gwybod bod hwn wedi mynd i ffwrdd o'r teulu ar un adeg.

Image caption Cafodd y cofnod olaf ei ysgrifennu yn 1961

"Mae'n ddiddorol achos mae'n hanes. Mae'n draddodiad yng Nghymru, bob tro roedd rhywun ifanc yn priodi, roedden nhw'n cael Beibl. Ac roedd y Beibl ar yr aelwyd wedyn.

"Mae'n dipyn o hanes Cymru mewn ffordd."

Mae elusen Nightingale House yn gofyn i unrhyw sydd â gwybodaeth am y teulu i gysylltu â nhw ar 01978 316800.