Ed Miliband yn addo mwy o bwerau i Gymru

Ed Miliband
Image caption Dywedodd Mr Miliband y byddai rheolaeth dros etholiadau'r Cynulliad - gan gynnwys yr oedran pleidleisio - yn cael ei drosglwyddo i Fae Caerdydd.

Bydd Cymru'n cael mwy o bwerau dros blismona, ynni a phorthladdoedd os yw Llafur yn ennill yr etholiad cyffredinol, dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband ddydd Sadwrn.

Wrth siarad yng nghynhadledd Llafur Cymru yn Neuadd y Brangwyn, Abertawe, dywedodd Mr Miliband y byddai rheolaeth dros etholiadau'r Cynulliad - gan gynnwys yr oedran pleidleisio - hefyd yn cael ei drosglwyddo i Fae Caerdydd.

Mae hefyd yn addo "ariannu teg" i Gymru, gan gyhuddo'r Torïaid o dorri £1.5bn o gyllideb Cymru.

Dywedodd ei fod am "ehangu'r grym sydd gan bobl Cymru dros eu bywydau eu hunain," gan gyfeirio at "Senedd Gymreig".

Canmolodd bolisïau llywodraeth Lafur Cymru ar greu swyddi a hyfforddiant galwedigaethol i bobl ifanc, gan ychwanegu "rydym yn gweld yn barod y gwahaniaeth y mae ein gwerthoedd yn eu gwneud yma yng Nghymru".

Treth

Bydd adolygiad "o'r bôn i'r brig" o awdurdod treth y DU os yw Llafur yn dod i rym.

Dywedodd bod gan Gyllid a Thollau EM "un rheol ar gyfer y cyfoethog ac un arall i'r tlawd", ac fe gyhuddodd y glymblaid o fod yn ddi-hid am bobl gyfoethog yn osgoi treth.

Dywedodd Mr Miliband bod y ffrae chwerw dros osgoi treth honedig gan gleientiaid cyfoethog o HSBC yn bygwth "gwead cymdeithas".

Dechreuodd y ffrae yn gynharach yr wythnos hon pan gafodd rhestr o roddwyr gwleidyddol, gan gynnwys rhai a oedd wedi rhoi arian i'r Blaid Lafur, a oedd â chyfrifon gyda changen bancio preifat HSBC yn y Swistir, ei chyhoeddi gan y Guardian a rhaglen Panorama y BBC.

Mae'r banc yn wynebu honiadau y gallai fod wedi helpu cleientiaid cyfoethog i osgoi neu beidio talu treth.

Ychwanegodd bod y ddadl wedi crisialu teimlad o "anghyfiawnder sy'n creu rhwyg dwfn" ynglŷn â'r ffordd mae Prydain yn cael ei rhedeg.

Braint seneddol

Yn gynharach yn yr wythnos, defnyddiodd Mr Miliband fraint seneddol i enwi'r Arglwydd Fink, cyn-drysorydd y blaid Geidwadol, fel un o ddinasyddion y DU a restrwyd fel rhai â chyfrif yng nghangen Genefa y banc.

Yn ei araith ddydd Sadwrn, gwawdiodd Mr Miliband yr Arglwydd Fink am ymddangos fel petai wedi tynnu'n ôl ei fygythiad i gymryd camau cyfreithiol yn ei erbyn.

Dywedodd Mr Miliband bod y datguddiad yn mynd y tu hwnt i ffrae San Steffan: "Mae'n ymwneud â rhywbeth mwy a dyfnach am ein heconomi, ein cymdeithas a'r math o wlad yr ydym eisiau byw ynddi.

"Mae unrhyw wlad wâr wedi ei hadeiladu ar y syniad o reolau cyffredin, yn cael eu rhannu a'u parchu gan ei holl ddinasyddion.

"Ond ym Mhrydain heddiw rydym mewn perygl o gael un rheol ar gyfer y cyfoethog a'r pwerus ac un arall ar gyfer pawb arall.

"Pan mae rhai pobl yn gallu osgoi talu eu cyfran deg, mae'n bygwth gwead y gymdeithas yr ydym yn dibynnu arni."

Yn ôl y blaid Lafur, mae cymaint â £34bn y flwyddyn ar goll o goffrau'r DU o ganlyniad i osgoi treth - mwy na dwbl yr hyn sy'n cael ei gasglu mewn treth yn flynyddol yng Nghymru gyfan.

Image caption "Nid yw'r dewis sy'n wynebu'r etholwyr erioed wedi bod yn gliriach," meddai Carwyn Jones.

'Dinistrio'r wladwriaeth'

Yn gynharach ddydd Sadwrn, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones wrth y gynhadledd mai dim ond Llafur sy'n gallu atal y Torïaid rhag dinistrio gwasanaethau cyhoeddus.

Wrth drafod yr etholiad cyffredinol ym mis Mai, condemniodd Geidwadwyr David Cameron fel rhai "hyd yn oed yn fwy eithafol na Margaret Thatcher".

"Nid yw'r dewis sy'n wynebu'r etholwyr erioed wedi bod yn gliriach," meddai.

Dywedodd bod y gwahaniaeth rhwng Llafur a'r Torïaid yn "enfawr".

Cyhoeddodd gynllun newydd i gefnogi entrepreneuriaid a fydd yn costio £40m, gyda'r bwriad o gefnogi 10,000 o gwmnïau newydd.

Ar fater y GIG dywedodd y byddai'n mynnu cael newid, yn hytrach nag ymddiheuro am fethiannau byrddau iechyd lleol yng Nghymru.

Aeth Mr Jones yn ôl i'r 1980au a'r 90au yn ei feirniadaeth o'r Ceidwadwyr, gan gymharu'r "dreth ystafell wely" gyda "threth y pen".

Cyhuddodd y Ceidwadwyr o fod eisiau "dinistrio'r wladwriaeth".

Dywedodd: "Nid llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden yn erbyn gwasanaethau cymdeithasol a grwpiau chwarae fydd e, ond popeth."

Galwodd hefyd am gymdeithas "oddefgar", ac am drafod mewnfudo gyda "thegwch a pharch".

Hefyd yn y gynhadledd fore Sadwrn, cafodd cynigion i gyfyngu cynghorwyr i 25 mlynedd o wasanaeth eu disgrifio fel rhai'n "ymylu ar ddangos rhagfarn oed".

Dywedodd Terry Renshaw, cyn-gynghorydd Sir y Fflint a oedd yn cynrychioli undeb yr adeiladwyr UCATT, bod Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar Lywodraeth Leol, sy'n cynnwys cynnig i gyfyngu ar gynghorwyr i 25 mlynedd o wasanaeth, yn "sarhad ar gynghorwyr".

Image caption Cynadleddwyr yn croesawu Ed Miliband i Neuadd y Brangwyn

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.