Tân mawr yn nociau Casnewydd

Mae 25 diffoddwr yn ceisio diffodd tân mewn canolfan ailgylchu yn ardal dociau Casnewydd.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw am 1:49pm i safle Sim Metals UK yn Noc Alexandra.

Nawr, mae peirianwyr yn ceisio canfod ffordd at y peirianwaith er mwyn i ddiffoddwyr allu cyrraedd canolbwynt y tân.

Mae swyddogion o Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cadw golwg ar y sefyllfa.