Yr Alban 23-26 Cymru

Cais Rhys Webb Image copyright PA

Wedi chwe munud aeth Cymru ar y blaen diolch i gic gosb gan Leigh Halfpenny.

Ond ni wnaeth y fantais honno barhau'n hir wrth i Stuart Hogg sgorio cais i'r tîm cartref, cyn i Greig Laidlaw ychwanegu tri phwynt arall i gyfanswm yr Alban, gyda chic gosb lwyddiannus.

Tri munud yn ddiweddarach ychwanegodd Halfpenny dri phwynt arall i gyfanswm Cymru.

Cafodd Finn Russell ei anfon i'r gell gosb, yn dilyn tacl flêr ar Dan Biggar, ac mi wnaeth Halfpenny y gorau o'r cyfle i ychwanegu mwy o bwyntiau i gyfanswm Cymru.

Gwnaeth Cymru'r mwyaf o gyfnod Russell oddi ar y cae, wrth i Rhys Webb sgorio cais.

Ond o fewn ychydig funudau roedd gan Gymru ddyn yn y gell gosb hefyd, wrth i Jonathan Davies dderbyn cerdyn melyn.

Deg munud wedi i'r ail hanner gychwyn roedd Laidlaw a Halfpenny ill dau wedi llwyddo gyda chiciau cosb, gan ddod â'r sgôr i 13-19.

A phum munud yn ddiweddarach ychwanegodd Laidlaw dri phwynt arall i gyfanswm y tîm cartref.

Sgoriodd Jonathan Davies ail gais i Gymru, cyn i Jon Welsh sgorio cais i'r Alban ym munud olaf y gêm.

Mae 'na ragor o gynnwys am Bencampwriaeth y Chwe Gwlad ar Cymru Fyw.