Leinster 14-16 Dreigiau

Leinster v Dreigiau Image copyright Inpho

O fewn munudau o gychwyn y gêm cafodd Nick Crosswell ei anfon i'r gell gosb, wedi iddo dderbyn cerdyn melyn.

Ond mi wnaeth pethau wella i'r ymwelwyr wrth i Patrick Leach sgorio cais cyntaf y gêm.

Llwyddodd Jimmy Gopperth gyda chic gosb i Leinster, gan leihau mantais y Dreigiau.

Derbyniodd ail chwaraewr y Dreigiau gerdyn melyn, wrth i Rhys Thomas gael ei anfon o'r cae am 10 munud.

Ychwanegodd Gopperth dri phwynt arall i gyfanswm Leinster, cyn i Prydie wneud yr un fath i'r Dreigiau.

Llwyddodd Gopperth gyda'i drydedd gic gosb, gan olygu mai dim ond un pwynt oedd yn gwahanu'r tîmau, 9-10.

O fewn dim roedd Prydie wedi ychwanegu tri phwynt arall i gyfanswm y Dreigiau, cyn i Ben Te'o sgorio cais i Leinster, gan eu rhoi ar y blaen.

Ond ni pharhaodd hynny'n hir wrth i gic gosb gan Prydie roi'r fantais, a'r fuddugoliaeth, i'r Dreigiau.