Tortillas a Salsa Mango

Tortillas a Salsa Mango Image copyright S4C
Image caption Tortillas a Salsa Mango

Dyma rysáit o'r gyfres gyntaf o Becws gan y gogyddes Beca Lyne-Pirkis - Tortillas a Salsa Mango.

"Dyw e ddim yn grempog traddodiadol, ond ma' fe'n fflat, rownd ac yn cael ei goginio mewn padell ffrio - felly yn dechnegol ma' fe'n grempog! Rysáit bach neis a gwahanol i'r crempog arferol.

"Mae'r tortillas yma yn hawdd i'w gwneud ac mor flasus efo'r salsa mango. Mae'r salsa'n mynd yn grêt efo corgimwch neu gyw iâr mewn salad hefyd, mae blas ffresh a tropical iddo!"

Cynhwysion

Tortillas:

•225g Masa Harina/Blawd corn (heb glwten)

•1 lwy de o halen

•300ml o ddŵr twym

Salsa Mango:

•1 winwnsyn coch

•1 avocado

•1 mango

•8-10 tomato bach

•1 tsili (neu fwy os ydych chi'n hoffi bwyd twym!)

•2 modfedd o sinsir ffres

•1 leim

•Olew'r olewydd

•Coriander

•Saws Soy

•Halen a Phupur

Dull

Cymysgwch y blawd, halen a'r dŵr twym gyda'i gilydd gan ddefnyddio llwy bren.

Defnyddiwch eich dwylo i ddod â'r gymysgedd gyda'i gilydd. Tydi'r toes ddim yn sticky felly mae'n neis iawn i'w drin. Gorchuddiwch gyda ffilm clir tra'n defnyddio darnau bach llai. Mi wneith sychu allan os nad ydych yn gwneud hyn.

Rholiwch rhwng dau ddarn o bapur gwrthsaim. Mae angen iddo fod yn eithaf tenau, a defnyddiwch dorrwr unrhyw faint (dwi'n creu tortillas maint bach yn aml). Ar ôl eu torri nhw, rhowch nhw dan liain llestri damp, neu fyddan nhw'n sychu gormod.

Coginiwch nhw ar y maen neu mewn padell ffrio. Does dim angen olew na menyn a dim ond munud sydd angen ar bob ochr.

Ar gyfer y salsa, torrwch y winwnsyn, avocado, mango, tomatos, tsili a coriander, a rhowch nhw mewn powlen. Mewn powlen arall, gratiwch y sinsir, gwasgwch sudd leim mewn iddo, ychydig o saws soy ac ychwanegwch yr olew. Rhowch ychydig o halen a pupur i flasu yna'i roi dros y llysiau a chymysgu'n dda. Blaswch i sicrhau fod yna ddigon o bopeth i fewn ynddo a a gallwch roi gwasgiad dda o leim ychwnegol drosto gan bod e'n helpu i gadw'r saws yn ffres.

Rhowch lwyed o salsa yng nghanol y tortillas a mwynhewch!

Image copyright S4C