'Ewch at yr heddlu' medd menyw gafodd ei threisio

llun menyw generic

Mae dynes o Wynedd gafodd ei threisio dros 20 mlynedd yn ôl yn dweud y dylai merched eraill sydd wedi eu cam-drin fynd â'u hachos at yr heddlu.

Wrth siarad â rhaglen Manylu ar Radio Cymru mae hi'n disgrifio sut y cadwodd ei stori hunllefus yn gyfrinach am flynyddoedd gan ofni na fyddai neb yn ei chredu hi. Am resymau cyfreithiol, chawn ni ddim cyhoeddi ei henw.

"Bob tro roedd o'n fy hitio fi mi roedd o'n d'eud - os ti'n deud wrth rywun, mi laddai di. Doedd gen i neb i droi atyn nhw.

"O'dd o'n gwybod bod gen i ddim rhieni i droi atyn nhw. Doedd mynd at yr heddlu ddim wedi croesi fy meddwl achos mi oeddwn i'n meddwl bod yr hitio yn normal i raddau - neu be oeddwn i'n ei feddwl oedd yn normal yr adeg hynny."

'Sawl gwaith'

Fe wnaeth yr ymosod corfforol a geiriol barhau am gyfnod cyn iddi hi gael ei threisio sawl gwaith.

Ond fe ddaeth y cyfan i'r wyneb y llynedd pan gafodd alwad ffon gan blismones o Heddlu'r Gogledd. Roedd hi'n ymchwilio i gyhuddiadau yn erbyn Mark Edwards o Gaernarfon.

"Dyma hi'n gofyn - nath o rwbath rhywiol iti? A mi dd'oth y cwbl allan - doeddwn i rioed wedi d'eud wrth neb arall erioed o'r blaen. A mi ges i'r teimlad bod hi'n gwrando arna'i ac ei bod hi'n fy nghoelio i.

"Ar ôl yr holl flynyddoedd, mi oeddwn i wedi cael y cyfle yma i dd'eud fy n'eud achos yn fy mhen i ers blynyddoedd mi oeddwn i'n meddwl mai fy mai o oedd y cyfan - fy mai i oedd bob dim."

Yn Llys y Goron Caernafon ym mis Tachwedd cafodd Mark Edwards ddedfryd o 12 mlynedd am amryw o drsoeddau - gan gynnwys cyhuddiad o dreisio ddechrau'r nawdegau a chyhuddiad o dreisio dynes arall yn 2013.

Amethyst

Image caption Mae'r Ditectif Gwnstabl Dafydd Phillips yn rhan o uned arbingol Amethyst

Mae ymchwilio i achosion o'r math yma yn rhan o waith uned arbenigol heddlu'r gogledd - uned Amethyst.

Ymhlith y 29 o swyddogion sy'n rhan o'r tîm mae'r Ditectif Gwnstabl Dafydd Phillips. Mae o'n dweud bod nifer cynyddol o achosion hanesyddol yn rhan o'u gwaith - ond bod natur yr ymchwiliad yn gallu bod yn heriol.

"Mae'n gallu bod yn anodd casglu tystiolaeth oherwydd fod amser wedi mynd heibio - a dydi cof pobl ddim mor dda," meddai.

"Gydag ymchwiliad trosedd hanesyddol hefyd does na ddim tystiolaeth fforensig a mae hynny yn gallu gwneud y gwaith o brofi cwyn yn galetach. Ond mae 'na fathau eraill o dystiolaeth y gallwn ni eu casglu."

Mae'r ystadegau a gafodd Manylu gan Heddlu'r Gogledd yn dangos cynnydd mawr iawn yn nifer y cyhuddiadau o dreisio sy'n cael eu hadrodd:

  • 2010 - 186
  • 2011 - 217
  • 2012 - 308
  • 2013 - 359
  • 2014 - 391

Ond er y cynnydd mewn adroddiadau yng Ngogledd Cymru, roedd pryder cyffredinol bod nifer yr unigolion sy'n mynd at yr heddlu drwy Gymru a Lloegr wedi gostwng yn 2012-2013.

Yn sgil hynny mi wnaeth yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron gyhoeddi cynllun newydd y llynedd er mwyn gwella'r ymateb i achosion o dreisio a rhoi mwy o gefnogaeth i ddioddefwyr.

Iwan Jenkins ydi prif erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn Abertawe.

"Mae 'na bwysau i wella'r drwy'r amser. Yr hyn sy'n bwysig ydi ein bod ni'n gwneud yn siwr fod ymchwil yr heddlu o safon a'n bod ni yn dadansoddi'r dystiolaeth yn gywir.

"A dyna'r pwyslais - i greu safon o fewn y gwaith ac i weld sut y gallwn ni ddatblygu'r achosion yma i'w gwneud nhw'n gryfach a chael hyd i fwy o achosion lle 'ni'n llwyddo.

"Yn 2014 roedd 58% o'r achosion treisio yn llwyddiannus - a mae hynny wedi codi yn ystod y blynyddoedd diwethaf sydd yn beth da."

85,000

Yn ôl yr Weinyddiaeth Gyfiawnder amcangyfrifir fod 85,000 o ddynion a merched yn cael eu treisio bob blwyddyn yng Nghymru a Lloegr. Ond canran fach iawn sy'n penderfynu mynd at yr heddlu. Dewis cael cyngor a chymorth gan elusennau a mudiadau mae nifer o unigolion.

Mae Elwen Roberts yn gweithio i wasanaethau trais de Gwynedd . Yn aml iawn, meddai, mae'r dioddefwr yn adnabod y sawl sydd wedi ymosod arnyn nw - a mae hynny'n golygu fod mynd at yr heddlu yn gallu bod yn eithriadol o anodd.

Image caption Elwen Roberts wrth ei gwaith

"Mae o mor sensitif a mae'n rhaid i bob unigolyn wneud y penderfyniad ei hun. Faswn i ddim yn gwthio neb i fynd ymlaen onibai eu bod nhw'n gyfforddus i wneud hynny. Mae'r goblygiadau yn gallu bod yn fawr a ma'n rhaid i rywun fod yn gryf iawn i fynd drwy'r llysoedd."

'Cefnogaeth yn allweddol'

Ond mae'r ddynes sy'n adrodd ei phrofiad ar Manylu yn falch ei bod hi wedi penderfynu dweud ei stori a rhoi tystiolaeth mewn achos llys.

"Dwi'n falch iawn, yndw. Mi roedd o'n lot o bwysau oddi ar fy ysgwyddau - yr eiliad glywais i ei fod o wedi cael carchar. Roedd o'n deimlad braf 'mod i wedi cael fy nghoelio - bod 12 o bobl wedi gwrando arnai a'i fod o wedi cael ei gosbi o'r diwedd."

Mae hi hefyd yn dweud fod cefnogaeth yr heddlu, teulu a ffrindiau wedi bod yn allweddol ac wedi rhoi nerth iddi hi.

"Neith pobl gredu chi - dewch ymlaen. Dw i wedi cael cefnogaeth ffantastig gan dim Amethyst. Pan nes i gytuno i ddod ymlaen a rhoi tystiolaeth nes i ddim meddwl y baswn i'n cael cymaint o gefnogaeth.

"Mae'r ymateb wedi bod yn bositif a phobl wedi bod yn fy llongyfarch i am ddod ymlaen ac o bosib ei stopio fo rhag gwneud hyn i rywun arall."

Manylu, 12.30pm ddydd Iau Chwefror 19 ar BBC Radio Cymru