Gwrthod ymladd dros 'Loegr'

Image copyright Ann Gruffydd Rhys

Roedd yr artist a'r awdur JG Williams yn wrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd o ymhlith nifer o bobl a oedd yn gwrthod ymladd ar sail ymdeimlad o genedlaetholdeb. Buodd ei deulu yn rhannu ei hanes yn ystod y cyfnod hwnnw gyda Cymru Fyw:


Paratoi am garchar Image copyright Llun trwy garedigrwydd teulu JG Williams
Image caption Paratoi am garchar: Hywel Lewis Llanybydder, Elis Gwyn Jones, John Griffith Williams (Jack) a'i frawd Wil Williams, y tri o Lanystumdwy, a JE Jones, Ysgrifennydd a Threfnydd Plaid Genedlaethol Cymru. Tynnwyd y llun yng ngardd Blaenywawr, cartref Jack a Wil ger plasty'r Gwynfryn, Llanystumdwy, Cricieth, tua 1942-4

Erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd roedd 2,290 o wrthwynebwyr cydwybodol wedi eu cofnodi yng Nghymru. Roedd y rhan helaeth o'r rhain yn rhai a wrthododd ymladd ar sail Cristnogaeth.

Ond cafodd 12 eu carcharu am wrthod ymladd ar sail Cymreictod, sef Gwyn Jones, John Legonna, Owen ap Tewdwr Owen, Paul Roberts, AOH Jarman, Hywel Lewis, Trefor Davies, Frank Jones, Richard Rowlands, Glyn Williams, FC Parry a JG Williams.

Y Blaid Genedlaethol

Yn ystod yr 1930au roedd heddychiaeth yn dechrau tyfu ar draws Cymru, ac o fewn y Blaid Genedlaethol (fel y'i gelwid bryd hynny). Fodd bynnag, ar ddechrau'r rhyfel yn 1939, ac wrth i wŷr ifanc wrthod ymuno â'r fyddin ar sail heddychiaeth a chrefydd, roedd Saunders Lewis ac eraill o fewn y Blaid o'r farn mai cenedlaetholdeb ddylai fod y prif reswm dros beidio ymladd.

Yn ail gyfrol ei hunangofiant, 'Maes Mihangel', dywed JG Williams (neu Jack i'w deulu a'i gyfeillion) i'r ymdeimlad o genedlaetholdeb ac o wrthwynebiad tuag at y rhyfel ddechrau cryfhau yn ardal Eifionydd adeg y sôn am godi ysgol fomio ym Mhenyberth, rhywbeth roedd Jack yn ei erbyn. Mae'n cyfeirio yn ei lyfr at ei sioc a'i siom nad oedd 'na rai Cymry eraill o'r un farn ag ef - eu bod yn cefnogi'r cynllun i godi'r ysgol fomio ac felly "o blaid dinistrio [pentre'] Penyberth ac o blaid gollwng y Saeson i ben Llŷn".

Galwodd y Blaid Genedlaethol ar i Gymry ifanc wrthwynebu'r ddeddf gonsgripsiwn, a hynny am eu bod yn Gymry, a dim rheswm arall. Roedd nifer o genedlaetholwyr yn agored am eu teimladau, ac mae'n debyg fod yr heddlu yn cadw llygad barcud arnyn nhw.

Ysgrifen ar y mur

Yn 1939, yn fuan wedi i'r alwad ddod i ymuno â'r fyddin, paentiodd criw o'r ardal, Jack a'i gyfeillion Elis Gwyn Jones a'i frawd, Wil Sam Jones (y dramodydd, yn ddiweddarach), y geiriau 'Ymwrthyd Cymru â rhyfeloedd Lloegr' a 'Conscription is Fascism' ar furiau adfail hen gapel Moreia yn Llanystumdwy.

Image copyright Llun trwy garedigrwydd teulu WS Jones
Image caption Ysgrifen ar y mur: adfail Capel Moreia, Llanystumdwy, ar ôl i Jack Williams, Elis Gwyn a Wil Sam baentio eu datganiad beiddgar arno un nos Sadwrn yng Ngorffennaf 1939

Mae'n debyg nad oedd gan y plismon lleol amheuaeth o gwbl pwy oedd yn gyfrifol gan iddo anelu'n syth am eu cartrefi fore trannoeth - fel y dywedodd merch Jack, Ann Gruffydd Rhys, "pwy arall yn y gymdogaeth oedd yn genedlaetholwyr amlwg, ac yn medru paentio llythrennau perffaith, ond Dad, a'i ffrind o arlunydd, Elis Gwyn?"

Roedd rhaid i wŷr ifanc a oedd yn gwrthod ymladd fynd o flaen Tribiwnlys ac yng Nghaernarfon oedd Tribiwnlys Jack. Yno fe ddarllenodd y barnwr, Syr Thomas Artemus Jones, ddyfyniad o'i ddatganiad, a'i reswm dros wrthod dod yn aelod o'r fyddin, "Yr wyf yn gwrthod cydnabod hawl Llywodraeth Lloegr i osod gorfodaeth filwrol ar Gymru... gwrthodaf ymuno â lluoedd Brenin Lloegr."

Image caption Yng ngharchar Walton y treuliodd JG Williams ran o'i ddedfryd, cyn cael ei symud i garchar Strangeways

Fodd bynnag, roedd y llysoedd o'r farn nad oedd gwrthwynebiad y cenedlaetholwyr o fewn y gyfraith, ac yn dilyn apêl aflwyddiannus roedd eu henwau yn cael eu rhoi ar restr milwrol. Roedden nhw wedyn yn cael eu 'gwahodd' i gael prawf meddygol, ond gwrthod mynychu fu hanes Jack a'r dynion ifanc tebyg.

Ymhen rhai misoedd derbyniodd wŷs i fynd o flaen llys barn. Yno cafodd ei garcharu a'i gludo yn syth i garchar Walton, ble y treuliodd ran o'i ddedfryd o dri mis dan glo ym misoedd y gaeaf 1942-3.

Carchar

Roedd bywyd carcharor y cyfnod hwnnw yn un llwm, oer ac unig. Rhaid oedd cadw at reolau llym, ac roedd gan bob carcharor ei swyddogaeth. Roedd Jack yn saer ac yn grefftwr medrus, felly cafodd ddefnyddio ei sgiliau yn y gweithdy. Yno câi gyfle prin i siarad â'i gyd-garcharorion, a chael ambell i ddadl.

Roedd rhai carcharorion eraill yno am wrthod ymladd hefyd - rhan helaeth ar sail crefyddol, ac un arall, oedd fel Jack, yn gwrthwynebu ar sail gwleidyddol. Sosialydd oedd yntau, ac er fod Jack wedi gobeithio y byddai tebygrwydd rhyngddyn nhw, roedd ganddyn nhw safiadau gwleidyddol gwahanol, gyda'r Sais yn methu deall daliadau'r cenedlaetholwr rhonc.

Image caption Roedd Saunders Lewis yn awyddus i gannoedd o wŷr ifanc wrthod ymladd ar sail cenedlaetholdeb

Dywedodd fod ambell i warden (yn arbennig felly y Cymry Cymraeg a weithiai yno) yn dangos dirmyg tuag ato hefyd, a hynny oherwydd ei ddaliadau a'i wrthwynebiad.

Er mor llwyd oedd bywyd ar adegau, profodd ambell i lygedyn o garedigrwydd. Cafodd ganiatâd i gadw ei Feibl Cymraeg gydag ef yn y carchar cyntaf (roedd yr ail garchar yn llai goddefgar, yn anffodus, ac o'r farn fod Beibl Saesneg ddigon da), a phan y bu'n rhaid iddo dreulio cyfnod yn ysbyty'r carchar (diffyg maeth oedd yn cael y bai am ei waeledd), llwyddodd un o'r wardeiniaid ddod â thair nofel Gymraeg iddo o'r llyfrgell. Mae hi'n amlwg i'r nofelau hyn fod yn falm iddo.

Cefnogaeth a dirmyg

Er mor anodd oedd bod yn garcharor, roedd gwrthod ymuno â'r fyddin yn rhywbeth yr oedd yn teimlo fod rhaid iddo'i wneud, ac roedd yn fodlon derbyn y gosb, beth bynnag fyddai honno.

Yn ffodus cafodd gefnogaeth ei rieni a pherchennog y stad ble'r oedd y teulu yn gweithio, er y mae'n cyfaddef ei hun ei fod wedi gorfod ystyried a oedd wirioneddol yn gwneud y peth iawn ar adegau, yn enwedig pan oedd yn cael ei ddifrïo gan rai o aelodau'r gymuned.

Ni chafodd gymaint o 'genedlaetholwyr' eu carcharu ag oedd Saunders Lewis wedi ei obeithio, ond roedd safiad y 12 gŵr ifanc gafodd eu carcharu am wrthod ymladd dros Loegr yn arwyddocaol, ac wedi gosod sylfaen ar gyfer ymdeimlad cynyddol o genedlaetholdeb yng Nghymru dros y degawdau nesaf.

(Cafodd yr erthygl hon ei chyhoeddi gyntaf yng Nghylchgrawn Cymru Fyw ym mis Chwefror 2015)