Trawiad ar y galon laddodd cyn-brif warden Parc Eryri

John Ellis Roberts Image copyright Tîm Achub Mynydd Llanberis
Image caption Bu farw John Ellis Roberts wrth ddringo craig Dinas Cromlech ger Llanberis ym mis Gorffennaf y llynedd

Bu farw cyn-brif warden Parc Cenedlaethol Eryri o "ddigwyddiad trychinebus i'r galon" wrth ddringo, clywodd gwest ddydd Iau.

Disgynnodd John Ellis Roberts, 70 oed o Fetws y Coed, 25 troedfedd wrth ddringo craig Dinas Cromlech ger Llanberis ym mis Gorffennaf y llynedd.

Cafodd ei gludio i Ysbyty Gwynedd Bangor mewn hofrennydd, ac er ymdrechion i'w achub, cafodd ei ddatgan yn farw yn yr ysbyty.

Dywedwyd yn y cwest yng Nghaernarfon y byddai wedi bod yn anymwybodol pan iddo ddisgyn, ac na fuasai ei anafiadau wedi achosi ei farwolaeth.

Dywedodd patholegydd, bod gan Mr Roberts annormaledd ar ei galon, ac roedd hynny wedi arwain at ddiffyg ocsigen i'w galon, ac mai dyma achos y trawiad.