Yr antur Ewropeaidd yn parhau

Jonathan Davies yn sicrhau buddugoliaeth i Gymru yng Nghaeredin
Image caption Jonathan Davies yn sicrhau buddugoliaeth i Gymru yng Nghaeredin

Ar ôl sylwebu ar fuddugoliaeth Cymru yng Nghaeredin mae Gareth Charles wedi codi ei bac unwaith eto'r wythnos hon. Mae'n sgwennu am lwyddiant Murrayfield ac yn edrych ymlaen at gemau'r rhanbarthau yn Ewrop o ogledd yr Eidal:

"Ddim yn bert, ond effeithiol"

Mae'r 6 Gwlad nôl ar y cledrau ac mae Warrenball nôl yn ei briod le. Fel dywedodd Gwyn Jones ar S4C fe aeth Cymru drwy "broses" yn Murrayfield bnawn Sadwrn.

Doedd y rygbi ddim yn bert iawn ar brydiau ond roedd e'n effeithiol ac roedd Cymru'n rheoli'n llwyr am gyfnodau maith ac mewn gwirionedd fe ddylai'r bwlch rhwng y ddau dîm fod yn fwy na'r triphwynt oedd yn eu gwahanu yn y diwedd.

Y cwestiwn yw allan nhw gael yr un oruchafiaeth gorfforol yn erbyn eu dau wrthwynebydd nesa - Ffrainc ac Iwerddon - neu oes angen elfennau gwahanol, elfennau sy'n cael eu cynnig gan chwaraewyr fel Liam Williams a Justin Tipuric?

Dwi ddim yn amau mai "'run peth eto" fydd y neges ond mae'n siŵr y cawn ni son mwy am hynny o Baris ymhen wythnos. 'Run peth eto fydde'n neis i ferched Cymru yn Montauban fel yr unig Gymry sy'n dal i freuddwydio am Gamp Lawn gyda'r criw dan-20 yn dal i gicio'u hunain am wastraffu cyfle euraidd yn Galashiels.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Fe chwaraeodd Laurie Harries ran allweddol ym muddugoliaeth merched Cymru yn erbyn yr Albanwyr

Her y Gwyddelod

Daeth un o ganlyniadau mwyaf calonogol y penwythnos dwetha o brifddinas Iwerddon nid Yr Alban. Roedd buddugoliaeth y Dreigiau dros Leinster mor dderbyniol ac oedd e'n annisgwyl. Awgrym o bosib bod cyfnod y 6 Gwlad yn amser da i chwarae timau cryfa'r Pro 12 sydd â nifer o chwaraewyr ar ddyletswydd ryngwladol.

Hyd yn oed heb eu sêr nhw bydd y Gweilch yn gobeithio bydd hynny'n wir yn Glasgow sydd bellach yn gyfrifol am ryw dri chwarter carfan Yr Alban. Camp y Dreigiau nawr yw ail-adrodd y perfformiad yn erbyn Connacht sy'n gweld eu lle yn y chwech ucha dan fygythiad ar ôl colli'n drwm ar Barc y Scarlets.

Image caption Y Dreigiau yn dathlu buddugoliaeth annisgwyl yn Leinster

Bydd y canlyniad a'r abwyd o chware ym mhrif gystadleuaeth Ewrop eto'r tymor nesa yn fwy na digon i'r Scarlets, sydd yn croesawu set arall o Wyddelod - Munster bnawn Sadwrn.

Roedd Munster dipyn trech na'r Gleision wythnos dwetha a bydd gofyn bod tîm y brifddinas yn codi'u gem yn erbyn tîm Benneton Treviso sydd yn raddol wella ar ôl dechrau trychinebus i'w tymor. A gan mai honno yw gêm Scrum V dyma hyn o lith yn eich cyrraedd chi o Ogledd yr Eidal.

Caeredin penwythnos dwetha; Treviso penwythnos 'ma a Paris penwythnos nesa - dim ond jyst digon o amser rhwng bob un i olchi a smwddio'r dillad a cherdded y ci - trueni nad oes 'na filltiroedd awyr i'w casglu!!

Gwyliwch yn fyw:

Benetton Treviso v Gleision Caerdydd, ScrumV, BBC2 Wales, Nos Wener 20 Chwefror 19:00

Dreigiau v Connaght, Clwb Rygbi, S4C, Sul 22 Chwefror 15:45