Tlws FA: Wrecsam 2-1 Torquau

Image copyright Getty Images

Tlws FA: Wrecsam 2-1 Torquau

Mae gan Wrecsam fantais o un gôl ar ôl cymal cyntaf rownd gynderfynol Tlws FA Lloegr yn erbyn Torquay United.

Fe wnaeth Andy Coughlin arbediad hanfodol i atal Ryan Bowman rhag sgorio, cyn i Wrecsam gymryd rheolaeth o'r gêm.

Fe aeth y tîm cartref ar y blaen yn dilyn ergyd ysblennydd o 20 llath allan gan Joe Clarke,

Sgoriodd Louis Moult ail gol Wrecsam cyn i Bowman sgorio a rhoi llygedyn o obaith i'r ymwelwyr cyn yr ail gymal.

Fe fydd y ddau dîm o'r gyngres yn cyfarfod ar gyfer yr ail gymal yn Plainmoor ar ddydd Sadwrn, 28 Chwefror.