Chwilio Afon Tywi am seithfed diwrnod am Cameron Comey

Cameron Comey
Image caption Fe aeth Cameron ar goll tra'n chwarae efo'i frawd ddydd Mawrth

Bydd y chwilio am fachgen 11 oed ddisgynnodd i afon yn Sir Gar yn parhau am y seithfed diwrnod ddydd Llun.

Aeth Cameron Comey ar goll yn Afon Tywi ddydd Mawrth wrth chwarae gyda'i frawd.

Daeth tua 350 o bobl i oleuo canhwyllau o obaith mewn gwylnos i'r bachgen yng Nghaerfyrddin dros y penwythnos.

Roedd aelodau o deulu Cameron yn yr wylnos ar Bont King Morgan nos Sul.

Image caption Daeth 350 o bobl i'r wylnos ddydd Sul
Image caption Roedd y chwilio yn parhau ddydd Sul er gwaethaf y tywydd garw

Straeon perthnasol