Teyrnged i'r Athro John Rowlands

John Rowlands yn beirniadu o lwyfan y brifwyl yn 2012 (Llun: Lluniau Llwyfan) Image copyright Lluniau Llwyfan: Eisteddfod
Image caption John Rowlands yn beirniadu o lwyfan y brifwyl yn 2012 (Llun: Lluniau Llwyfan)

Roedd Elan Closs Stephens yn gyfaill ac yn gyd-weithiwr i'r nofelydd, academydd a beirniad llenyddol John Rowlands, fu farw ar 23 Chwefror.

Bu'r ddau yn gweithio gyda'i gilydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dyma ei hatgofion, ei hargraffiadau a'i theyrnged bersonol iddo:

"O golli John, collwyd gŵr oedd yn ehangu gorwelion Cymreictod. Roedd John yn gynnes ac yn addfwyn ond yn glir ei safonau, yn llym ei feirniadaeth ac yn gadarn yn ei ddaliadau. Roedd yn eang a rhyngwladol ei ddarllen a'i ddiddordebau, ac yn ddyn galluog eithriadol. Byddaf yn gweld ei golli yn fawr iawn ac mae hi'n anodd iawn defnyddio modd gorffennol y ferf wrth gyfeirio ato heddiw.

Dolbebin yn Bow Street

Image caption John Rowlands

Deuthum i a Roy i'w adnabod o a Luned pan benodwyd John i Adran y Gymraeg yn Aberystwyth. Roedd y ddau wedi cyfarfod fel cyd-ddarlithwyr yn y Drindod yng Nghaerfyrddin. Dyma'r cyfnod pan godwyd Dolbebin yn Bow Street, tŷ o garreg wedi ei saernïo, lloriau pren hardd a llun gan Ceri Richards yn crogi yn y 'stafell fyw.

Roedd hwn yn gyfnod llewyrchus o ymwneud rhyngwladol dan nawdd Cyngor y Celfyddydau a rhoddodd John a Luned groeso i sawl cynhadledd o'r Academi ac awduron ar daith.

Nofelydd blaengar

Roedd John eisoes yn nofelydd blaengar a thoreithiog. Y nofel achosodd fwyaf o siarad oedd 'Ieuenctid yw Mhechod' (1965). Anodd dychmygu erbyn heddiw pa mor anodd oedd hi i drafod rhyw yn y pumdegau a'r chwedegau cynnar - heb sôn am ei ddisgrifio!

Tros ddeugain mlynedd, o'r saithdegau ymlaen, bu hefyd yn creu swmp o waith safonol, meddylgar am lenyddiaeth gyfoes Cymru gan osod ei feirniadaeth o fewn cyd-destun athroniaeth a llenyddiaeth feirniadol Ewropeaidd. Bu'n gymorth i greu to o ysgolheigion iau sydd yn feirniaid llenyddol. Bu hefyd yn cynnal dawn llu o ysgrifenwyr ifanc fel rhan o gwrs Ysgrifennu Creadigol yn yr Adran.

Yn ystod hyn i gyd, bu'n methrin ei ddiddordeb mewn celf, mewn cerddoriaeth (roedd yn bianydd o safon uchel), ac yn arbennig felly mewn bwyd a gwin. Yn ei golofn yng nghylchgrawn Barn bu'n ein hannog i wella ein hadnabyddiaeth o fwyd a gwin o safon, ac un o'r pleserau mawr oedd ei gyfraniad ar drywydd bwyd da ym mro yr Eisteddfod.

Addysgai ei hun o ddifri gan deithio er enghraifft i brofi coginio Heston Blumenthal yn y Fat Duck yn Bray. Y cof olaf sydd gen i yw cael fy annog i brofi gwin Pant Du oedd wedi ei blesio yn fawr.

Wedi ymddeol?

Yn y blynyddoedd o ymddeoliad (os gellir eu galw yn hynny!) ail-gydiodd Luned ag yntau yn y freuddwyd o greu bwyty yn 'Y Goeden Eirin' ger Y Groeslon yng Ngwynedd. Dyma nefoedd fach o encil, ychydig ystafelloedd a chroeso ar yr aelwyd.

John a Luned yn paratoi y bwyd, John yn dewis y gwin, sgwrsio, y piano Bechstein ar agor yn y 'stafell ginio a'r portread olew o'i gyn-athro John Gwilym Jones yn edrych lawr arnom. Dyma ŵr a welai ei ysgolheictod a'i fywyd a'i Gymreictod yn rhan o ddiwylliant a moethusrwydd Ewropeaidd.

Diwylliwr oedd John i lawer; gŵr oedd yn ein hannog i ymestyn ac ymhyfrydu yng ngallu pobl i greu campweithiau, boed yn win neu yn nofel neu yn Fugue. Ac fe'n hanogodd i ddeall safon er mwyn deall maint yr orchest. Yr oedd yn ddi-ffws ac yn ddi-rodres yn ei ehangder.

Mae fy nghydymeimlad dwysaf efo Luned oedd yn gymar perffaith i ŵr a honnai ddiffyg ymarferoldeb; efo'r efeilliaid Huw a Dyfed; efo Sioned a'i phlant a gollodd Daid annwyl tu hwnt."

Image caption Yr Athro Elan Closs Stephens

Straeon perthnasol