Trigolion i dalu cost llygredd

Cyngor
Image caption Pencadlys Cyngor Wrecsam

Mae rhai o drigolion dau bentref yn Sir Wrecsam wedi clywed fod disgwyl iddyn nhw dalu rhwng £2000 a £10,000 yr un i gael gwared ar blwm o'u gerddi. Mae'r plwm wedi bod yno ers 200 o flynyddoedd.

Mae 18 o berchnogion tai ym mhentrefi Coedpoeth a Brymbo, sydd yn byw ar safle hen weithfeydd plwm, wedi clywed y bydd yn rhaid iddyn nhw dalu yn rhannol am y gwaith o waredu'r gwastraff plwm.

Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Llun nesaf, gyda Chyngor Wrecsam yn talu gweddill y gost.

Dywedodd un o'r trigolion, Julie Hinchcliffe, sydd yn byw yng Nghoedpoeth, ei bod hi a'i chymdogion yn "gwbl gandryll" am y peth.

Roedd llawer wedi derbyn gwaith ymchwil cyfreithiol ar y tir wrth brynu tai yn yr ardal, a doedd na ddim awgrym bryd hynny fod problem yn bodoli gyda hen blwm ar y tir. Ychwanegodd Mrs Hinchcliffe:

"Dydi'r rheol sydd yn dweud fod yr un sydd yn gyfrifol am lygru hefyd yn talu am y gwaith glanhau ddim yn gweithio yma, gan fod yr un sydd wedi llygru wedi marw gannoedd o flynyddoedd yn ôl."

Grŵp ymgyrchu

Mae hi a thrigolion eraill o'r pentrefi wedi ffurfio grŵp ymgyrchu er mwyn pwyso ar aelodau seneddol ac aelodau'r Cynulliad, yn y gobaith o ddylanwadu ar y cyngor.

Maen nhw'n gobeithio efelychu llwyddiant trigolion Blainfield yn yr Alban oedd mewn sefyllfa debyg, ond fe lwyddodd y trigolion hynny i ddarbwyllo'r cyngor lleol a llywodraeth y DU i dalu am y gwaith.

"Mae'r peth yn hurt, does dim bai arnom ni, mae gennym ni bob math o bobl yma, pensiynwyr, teuluoedd gyda phlant ifanc - mae disgwyl i rai dalu £10,000," ychwanegodd Mrs Hinchcliffe.

Mewn datganiad, dywedodd y cynghorydd David A Bithell ar ran Cyngor Wrecsam: "Mae swyddogion wedi gweithio gyda thrigolion ers 2012 ar y mater yma ac mae'r cyngor a'r trigolion wedi talu niferoedd amrywiol i ddiheintio'r tir. Rwy'n deall rhwystredigaeth y trigolion yn llwyr ac yn gobeithio y daw atebion i'r mater yn fuan."

Dywedodd Llywodraeth Cymru mewn datganiad:

"Mae'r sefyllfa yng Nghoedpoeth yn dod o dan Deddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990, sydd yn nodi fod y "person priodol" i dalu am y gwaith o lanhau tir sydd wedi ei lygru yw'r person oedd "yn gyfrifol am neu adawodd i'r llygredd ddigwydd.

"Cyfrifoldeb yr awdurdod lleol ydi dod o hyd i'r "person priodol" ac i ddarganfod ar bwy mae'r cyfrifoldeb yn disgyn.

"Yn anffodus yn yr achos hwn nid yw'r un oedd yn gyfrifol am y llygredd yn dal mewn bodolaeth ac mewn achosion o'r fath mae'r ddeddf yn nodi fod y cyfrifoldeb am y gwaith o lanhau'r tir yn gorwedd gyda pherchennog presennol y tir.

"Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod fod y trigolion mewn sefyllfa anodd ac rydym yn parhau i gydweithio yn agos gyda Chyngor Wrecsam i sicrhau ffordd ymlaen."