Aled Sion Davies yn torri dwy record

Aled Sion Davies Image copyright Getty Images
Image caption Aled Sion Davies yn dathlu llwyddiant yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow y llynedd.

Mae'r athletwr paralympaidd o Gymru Aled Sion Davies MBE wedi profi llwyddiant syfrdanol yng nghystadleuaeth y grand prix athletau yn Dubai.

Brynhawn Llun fe dorrodd record byd wrth daflu'r pwysau - gyda thafliad o 15.92m yn y gystadleuaeth F42. Daw hyn ddiwrnod ar ôl iddo dorri record byd arall wrth daflu'r ddisgen yn yr un categori.

Roedd Davies yn un o sêr Tîm GB yn Gemau Paralympaidd Llundain yn 2012 gan ennill efydd yn y gystadleuaeth ergyd F42/44 taflu pwysau cyn cael aur yn y ddisgen.

Ym Mhencamprwiaeth Athletau'r Byd yr IPC ym mis Gorffennaf 2013 fe osododd record byd yn y gystadleuaeth ergyd F42 gyda phelter o 14.71 medr.

Roedd wedi gosod record byd ar gyfer y ddisgen F42 ym mis Mai 2014 hefyd mewn cystadleuaeth yn yr Eidal, gan ychwanegu .84 medr i record byd 12 mlynedd Fanie Lombaard.