Ymgyrch i gefnogi claf canser

Irfon a'i deulu
Image caption Irfon gyda'i wraig Becky a'i blant Lois, Owen, Beca, Sion a Ianto

Daeth degau o bobl i gyfarfod cyhoeddus nos Fawrth i drafod sut i barhau ag ymgyrch i helpu claf canser o Fangor, sy'n wynebu gorfod symud i Loegr i gael triniaeth bellach.

Mae Irfon Williams, 44, yn diodde' o ganser y coluddyn ac wedi bod yn cael triniaeth yn Ysbyty Gwynedd dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Ond fe glywodd yr wythnos ddiwetha' fod cais am gyffur allai ymestyn ei fywyd wedi cael ei wrthod gan y bwrdd, oedd yn dadlau eu bod yn ceisio sicrhau bod "cyffuriau, triniaethau ac adnoddau'n cael eu defnyddio ble maen nhw fwya' effeithiol".

Mae Mr Williams, sy'n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei hun, nawr yn bwriadu symud ei driniaeth feddygol i ysbyty yn Lloegr.

Dros y flwyddyn ddiwetha' mae Mr Williams, fel rhan o ymgyrch Tîm Irfon, wedi codi bron i £65,000 i elusen Awyr Las, er mwyn cefnogi cleifion canser yng ngogledd Cymru.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Irfon Williams

'Ar gael yn Lloegr'

Gan nad yw'r cyffur dan sylw, cetuximab, wedi cael ei gymeradwyo gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth (NICE), dydy o ddim ar gael ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, er ei fod ar gael i gleifion yn Lloegr.

Mae'n rhaid gwneud cais i fyrddau iechyd Cymreig yn unigol, ac mae'r ceisiadau hynny'n cael eu hystyried gan banel o arbenigwyr ar sail hanes clinigol y claf, tystiolaeth feddygol ac effeithiolrwydd ariannol.

Roedd tri arbenigwr clinigol wedi dweud fod Mr Williams angen y cyffur cetuximab, ac y byddai'n cynyddu ei siawns o frwydro'n erbyn y canser.

Er y gallai'r cyffur gael ei dynnu o'r Gronfa Cyffuriau Canser yn Lloegr i rai cleifion, byddai cyflwr Mr Williams yn golygu ei fod yn dal yn gymwys i'w dderbyn.

Mae Mr Williams wedi apelio yn erbyn penderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac, yn y cyfamser, mae ymgyrch o'r enw 'Hawl i Fyw' wedi dechrau ar wefan Facebook, sydd wedi denu dros 18,000 o ddilynwyr ers ei sefydlu dros y penwythnos.

Mae bron i 8,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw ar y bwrdd iechyd i newid eu penderfyniad.

Image caption Cafodd cyfarfod cychwynnol ei gynnal ym Mangor nos Fawrth i drafod ymgyrch 'Hawl i Fyw'

'Gwydr hanner llawn'

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Mr Williams ei fod wedi cael newyddion drwg fis Rhagfyr, nad oedd y driniaeth cemotherapi wedi llwyddo i leihau maint ei diwmorau ddigon er mwyn cael llawdriniaeth.

Bryd hynny, dywedodd arbenigwyr eu bod yn awyddus i ychwanegu dôs o Cetuximab ar y cyd â chemotherapi am dri mis, i weld fyddai hynny yn lleihau maint y tiwmorau, "yna cysidro'r llawdriniaeth eto".

Yn ôl Mr Williams, 15% ydi'r siawns y byddai hynny'n gweithio, "ond, ma' 'na siawns, a tra ma' 'na obaith, ma' hynny'n cadw rhywun i fynd - 'dw i wastad wedi bod yn berson sydd â'i wydr yn hanner llawn".

Er i Mr Williams ddweud ei fod o wedi cael cynnig rhoddion i dalu am y cyffur yn breifat, mae'n dweud fod 'na achos ehangach erbyn hyn:

"Ma' hyn am bobl eraill yng Nghymru sy'n mynd drwy'r un ras a fi - ond heb lais mor gryf... Dwi'n teimlo fod gen i oblygiad i wthio hyn er lles pobl eraill yng Nghymru".

Image copyright Arall
Image caption Mae Irfon Williams wedi bod yn cael triniaeth ers blwyddyn

'Ddim ar gael'

Er nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn fodlon gwneud sylw yn uniongyrchol ar achos Mr Williams, dywedodd llefarydd ar eu rhan:

"Dyw triniaethau sydd ddim wedi cael eu cymeradwyo gan NICE ddim ar gael yn arferol yng Nghymru.

"Rydyn yn derbyn fod y penderfyniadau hyn yn hynod sensitif - mae natur y ceisiadau'n aml yn golygu fod pendefyniadau'n cael eu gwneud pan fo cleifion yn diodde' problemau iechyd sylweddol.

"Ond mae'n rhaid i ni sicrhau fod cyffuriau, triniaethau ac adnoddau'n cael eu defnyddio ble maen nhw fwya' effeithiol nid yn unig i'r claf yn unigol ond i'r boblogaeth yn ei chyfanrwydd."

Y byrddau iechyd dan sylw sy'n gyfrifol am unrhyw benderfyniadau ar geisiadau cyllid ar gyfer cyffuriau ychwanegol gan nad oes cronfa ar gyfer cyffuriau canser, tebyg i'r un yn Lloegr, yn bodoli yng Nghymru.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Bu Irfon Williams yn siarad ar Raglen Dylan Jones fore Mawrth.

Meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Mae ein polisïau wedi'u seilio ar gyngor clinigol arbenigol a does gennym ni ddim cynlluniau i gyflwyno cronfa cyffuriau canser yng Nghymru.

"Rydym yn gwario mwy yng Nghymru fesul y pen ar ofal canser nag y maen nhw'n Lloegr ac rydym yn gwneud hynny heb gronfa cyffuriau canser.

"Rydym wedi bod yn gyson o ran ein safbwynt y dylai pob claf gael triniaeth sydd wedi'i seilio ar dystiolaeth a gofal sy'n cwrdd â'u hanghenion clinigol yn hytrach na mynediad i gyffuriau sydd ddim wedi'u profi i fod yn gost-effeithiol."

Straeon perthnasol