Stiward yn gwawdio cefnogwyr yr Elyrch

Abertawe Image copyright Arall
Image caption Ki Sung-Yueng yn sgorio i Abertawe yn ystod y gêm

Mae stiward pêl-droed wedi ei ddiswyddo ar ôl iddo wawdio cefnogwyr clwb Abertawe yn ystod buddugoliaeth yr Elyrch yn erbyn Manchester United yn Stadiwm y Liberty dros y penwythnos.

Roedd y stiward wedi gwawdio cefnogwyr y clwb drwy wneud ystumiau sydd yn gysylltiedig â chefnogwyr clwb pêl-droed Caerdydd.

Cafodd y stiward, sydd heb ei enwi, ei hebrwng o'r cae wedi iddo guro ei ben gyda'i ddwylo mewn dull sy'n cael ei ddisgrifio fel yr "Ayatollah", ac sydd yn boblogaidd gyda chefnogwyr clwb y brifddinas.

Dywedodd y cwmni sydd yn gyfrifol am ddiogelwch yn y stadiwm fod y dyn wedi ei gyflogi gan asiantaeth ddiogelwch allanol, ac nid gan y clwb.

Dywedodd llefarydd ar ran y stadiwm: "Cafodd y stiward dan sylw ei hebrwng ar ei union ac fe siaradodd yr heddlu ag o.

"Yn sicr ni fydd yn cael ei ddefnyddio gennym ni eto, ac rydym yn deall nad ydyw yn cael ei gyflogi gan yr asiantaeth dan sylw."