Alun Cairns yn herio Cymry Cymraeg i annog dysgwyr

Alun Cairns

Mae angen i siaradwyr Cymraeg fod yn fwy "amyneddgar a chefnogol" wrth ddelio â'r rheiny sy'n dysgu'r iaith, yn ôl Gweinidog Swyddfa Cymru.

Mewn araith yng Nghaerdydd nos Fercher, bydd Alun Cairns yn dweud bod canfyddiadau o elitaeth ynghlwm â'r iaith, a bydd yn dadlau yn erbyn deddfwriaeth sy'n ceisio cynyddu defnydd o'r iaith.

Bydd Mr Cairns yn herio siaradwyr i wneud mwy i "gofleidio ac annog" dysgwyr, yn enwedig rhai o gymunedau nad ydyn nhw'n draddodiadol Gymreig.

Mae ffigyrau'r cyfrifiad diweddaraf yn 2011 yn awgrymu bod 19% o bobl yng Nghymru yn gallu siarad yr iaith yn rhugl.

'Hybu'r iaith yn organig'

Bydd Mr Cairns yn dweud nad yw'n dymuno gweld llywodraeth yn deddfu er mwyn ceisio gorfodi mwy o ddefnydd o'r Gymraeg.

"Nid wyf eisiau gweld trefn o reoleiddio'r iaith, sy'n esgeuluso ymdrechion i hybu ei defnyddio.

"Rhaid i ni osod y nod o hybu'r iaith yn organig, yn enwedig ar lefel llawr gwlad, ac iddi wreiddio fel iaith gymunedol fyw sy'n ffynnu."

Bydd hefyd yn dweud bod creu cyfleoedd am swyddi ar draws y wlad, er mwyn galluogi i bobl ifanc aros yn eu cymunedau, yn hollbwysig.

Her

Yn ogystal â chreu cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith ym meysydd technoleg, peirianneg a dylunio, bydd Mr Cairns yn herio'r gymuned Gymraeg.

"Rwyf hefyd yn herio pawb i wneud mwy i gofleidio ac i annog dysgwyr Cymraeg ac i fod yn amyneddgar ac yn gefnogol, yn enwedig i'r rheiny o gymunedau nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg yn draddodiadol.

"Yn anffodus mae gormod o lawer o siaradwyr Cymraeg, yn enwedig cenhedlaeth iau sydd wedi astudio'r Gymraeg nes eu bod yn 16 yn yr ysgol, nad ydyn nhw'n gweld eu hunain fel siaradwyr Cymraeg, neu nid oes ganddyn nhw'r hyder i ddefnyddio'r iaith y tu allan i'r ystafell ddosbarth neu fuarth yr ysgol.

"Mae gan y Cyfryngau Cymraeg ran bwysig i'w chwarae o ran herio patrymau ieithyddol a meithrin hyder pobl i siarad Cymraeg a'i defnyddio yn eu bywydau bob dydd."

'Ymdrech sydd bwysicaf'

Image copyright Sara Manchipp
Image caption Dywedodd Sara Manchipp ei bod hi wedi gweld enghreifftiau o elitaeth

Ar raglen Taro'r Post BBC Radio Cymru, dywedodd cyn enillydd Miss Cymru, Sara Manchipp, sy'n disgrifio ei hun fel rhywun sy'n falch o'i Chymreictod, bod yr iaith "wastad yn rhan enfawr o'm mywyd" er iddi fyw mewn ardal di-Gymraeg.

Dywedodd Ms Manchipp, sydd o ardal Port Talbot: "Dwi di cael fy meirniadu am safon fy iaith o'r blaen, a fi'n credu bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn 'neud yr ymdrech.

"Dwi'n deall pwysigrwydd purdeb yr iaith, achos maen bwysig bod ni'n gallu siarad Cymraeg, ond i rywun yn sefyllfa fi sy'n dod o rywle lle does neb yn siarad Cymraeg, fi moyn 'neud yr ymdrech."

Ychwanegodd ei bod wedi gweld elitaeth yn ei barn hi, yn aml yn dod gan bobl o ardaloedd a theuluoedd Cymraeg.

"Dwi'n gneud fy ngore dros fy ardal i, a s'ai byth yn mynd i adael i unrhyw un ddweud wrtha i am stopio siarad Cymraeg."

Image caption Yn ôl Jamie Bevan mae deddwriaeth yn rhan bwysig iawn o'r ymdrech i hybu'r iaith

Hefyd ar y rhaglen oedd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Jamie Bevan, ddywedodd ei fod wedi cael yr un profiadau a Ms Manchipp.

Er iddo ddweud ei fod yn gweld llai a llai o achosion o'r fath, pwysleisiodd mai defnyddio'r iaith sydd bwysicaf.

Ychwanegodd mai "diffyg dealltwriaeth difrifol" yw safbwynt Alun Cairns nad oes cysylltiad rhwng deddfwriaeth a chyfleoedd i ddefnyddio'r iaith ar lawr gwlad.

"Dyw deddfu ar ben ei hun ddim yn mynd i weithio, ond gallwn ni ddim cam-ddweud pwysigrwydd deddfwriaeth," meddai.

"Mae'n rhaid cael ewyllys, mae'n rhaid cael hybu a'r holl waith da sy'n digwydd, y gwaith mae Sara yn 'neud draw yn Port Talbot, y Mentrau Iaith yn yr ardaloedd gwahanol, ond llaw yn llaw gyda deddfwriaeth."