Ydy hi'n iawn i Gristnogion genhadu?

Gweithio mewn ysbyty ym Mangladesh Image copyright Bwrw Golwg
Image caption Rebecca Jones yn helpu mewn Ysbyty Gristnogol ym Mangladesh

Fe wnaeth rhai cenhadon Cristnogol "gamgymeriadau mawr" yn y gorffennol meddai un o weinidogion Cymru mewn rhaglen radio sy'n trafod a ydi hi'n iawn i Gristnogion fynd dramor i genhadu.

Ond, yn ôl y Parchedig Alun Tudur, 'does dim o'i le ar daith diweddar dwy Gristion ifanc, sydd hefyd yn siarad ar y rhaglen, i weithio a chenhadu mewn gwledydd Islamaidd.

Mae rhaglen Bwrw Golwg ar BBC Radio Cymru yn gofyn a ydi cenhadu, yn enwedig mewn gwledydd Islamaidd, yn creu gwrthdaro ac yn gwaethygu'r trais a'r tensiwn sydd rhwng crefyddau heddiw.

Mae'r rhaglen yn clywed gan Rebecca Jones ac Anna Huws am eu taith i Fangladesh ac ardal Foslemaidd o India i weithio, ond hefyd i rannu eu ffydd Gristnogol.

Image copyright Bwrw Golwg
Image caption Roedd Anna a Rebecca yn byw a rhannu eu ffydd mewn cymunedau Moslemaidd

Dywedodd cynhyrchydd y rhaglen, Sarah Down-Roberts, fod rhai Moslemiaid yn rhoi'r bai ar genhadaeth Gristnogol y gorllewin am y gwrthdaro crefyddol sydd wedi dod i'r amlwg mewn digwyddiadau diweddar ym Mharis ac mewn gwledydd fel Syria, Libya a Nigeria.

"Mae un wefan Islamaidd, er enghraifft, yn dweud fod ymyrraeth Cristnogion yn lledu fel tyfiant canser ac fe gyhuddant genhadon o gyrraedd gyda sieciau o filoedd o bunnau o arian dyngarol er mwyn lledaenu eu neges," meddai.

"Ar y llaw arall mae rhai Cristnogion yn gweld ambell wlad Islamaidd yn gwrthod unrhyw ryddid crefyddol a cheir straeon am Foslemiaid, sy'n troi at Gristnogaeth, yn cael eu llabyddio."

Mae'r rhaglen felly'n trafod a ydi cenhadaeth yn bwydo casineb ac ydi cenhadu mewn gwlad neu ardal Foslemaidd yn ddoeth ac yn addas, meddai.

Rhannu ffydd

"Mae angen gwahaniaethau rhwng Cristnogaeth a'r gorllewin - dyna un o gamgymeriadau mawr rhai o genhadon oes Fictoria, bod nhw wedi cysylltu Cristnogaeth efo diwylliant benodol a strwythur benodol. Nid Cristnogaeth ydi'r gorllewin," meddai'r Parchedig Alun Tudur, sy'n weinidog yng Nghapel Ebenezer, Caerdydd.

Ond mae'n credu bod Anna a Rebecca yn "ymateb yn ddidwyll i alwad Duw" drwy fynd i genhadu mewn cymunedau Moslemaidd ac yn rhoi cymorth ymarferol drwy helpu pobl oedd yn sâl ac yn wan.

"Ac os oedd 'na gyfleon yn codi yn gwbl naturiol i rannu ffydd, bod nhw yn gwneud hynny," ychwanegodd.

Dywedodd fod unrhyw un sy'n credu'n gryf yn ei ffydd, beth bynnag ydi honno, eisiau i bobl eraill ddeall y ffydd hefyd: "Mae'r argyhoeddiad hwnnw yn Islam ac yn y ffydd Gristnogol, sef bod ganddon ni wirionedd 'dan ni yn credu sydd yn wirionedd terfynol a 'da ni isho'i rannu o, nid trwy drais na gormes ond drwy gariad," meddai.

Image copyright Bwrw Golwg
Image caption Mosg yn Savar, Bangladesh

Heb ddysgu digon?

Mae Siân Messamah, sydd yn Foslem, hefyd yn credu bod y ddwy Gristion ifanc wedi mynd "efo'r ewyllus gora', a'r agwedd iawn".

Ond mae hi'n awgrymu y gallai pobl weld eu gweithredoedd yng nghyd-destun negyddol hanes cenhedaeth, lle'r oedd cenhadon ers talwm yn cynnig datblygiadau i helpu pobl mewn gwledydd tlawd ar yr amod fod pobl yn newid eu ffydd i'r ffydd Gristnogol.

Mae hi hefyd yn dweud eu bod efallai wedi bod yn ychydig yn naïf a heb ddysgu digon am ffydd Islamaidd y cymunedau roedden nhw'n mynd i fyw ynddyn nhw cyn mynd.

Fe aeth Rebecca, sy'n feddyg, i Fangladesh, gwlad Islamaidd, i weithio mewn ysbyty Gristnogol gyda'r bwriad o gyflwyno ei ffydd i'r bobl leol hefyd, os oedd cyfle.

Aeth Anna i ddysgu Saesneg a byw mewn cymuned Foslemaidd yn India gan ddysgu am eu ffydd a'u ffordd o fyw a rhannu eu chredoau hi.

Hindŵaeth yw prif grefydd y wlad honno.

Mae Anna'n egluro ar y rhaglen ei bod yn credu fod ei gweithredoedd cenhadol hi yn iawn am ei bod "yn credu gyda'i holl galon mai drwy Iesu Grist mae dod at Dduw."

Er fod y grefydd Islam yn cydnabod Iesu Grist fel un o'r proffwydi, mae perthynas Moslemiaid gyda'u Duw yn uniongyrchol, ac nid 'drwy' unrhyw ffigwr arall.

Codi pontydd a chyd-fyw

Mae Anna hefyd yn dweud bod ei phresenoldeb a'i hagwedd hi a'i chydweithwyr wedi gwella perthynas efo Moslemiaid, nid ei waethygu.

Mae Siân Messamah yn cytuno fod "rhannu profiadau ac adeiladu perthynas", fel y gwnaeth Anna a Rebecca, yn beth da sy'n "torri lawr y bariars" a bod hynny'n rhywbeth mae angen i'r grefydd Islam ei wneud hefyd.

"Os ydach chi'n edrych yn ôl i amsar y proffwyd Mohammed roeddan nhw i gyd yn cyd-fyw heb unrhyw broblem o gwbl rhwng y crefyddau gwahanol," meddai.

"Felly mae hwn [eithafiaeth a diffyg goddefgarwch rhwng crefyddau] yn rhywbeth diwylliannol diweddar yn fy meddwl i … a dwi'n weld o'n drist," ychwanegodd.

Gallwch glywed mwy o'r drafodaeth ac am gyfnod Anna a Rebecca dramor ar Bwrw Golwg ar BBC Radio Cymruam 8:00 ddydd Sul, Mawrth 1. Bydd clip o'r drafodaeth lawn hefyd ar wefan y rhaglen.

Hefyd ar y BBC