Pollyanna maes yr iaith

Cynhaliodd Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd ddarlith gan y Gweinidog Alun Cairns nos Fercher 25/2/15. Jeremy Evas, Darlithydd mewn Polisi Iaith a Chynllunio Ieithyddol fu draw i wrando. Dyma ei ymateb:

Pan oeddwn yn gweithio ym Mwrdd yr Iaith Gymraeg, mesurwyd fy sgôr 'Pollyanna' ddwywaith. Prif gymeriad ffilm o'r un enw yw Pollyanna sydd yn batholegol optimistaidd. Perchnogwyd yr enw gan seicolegwyr ac ymgynghorwyr rheoli, ac mae'r rhai olaf hyn yn ei ddefnyddio i fesur optimistiaeth (a sawl elfen arall) yn y gweithle.

Roedd fy sgôr cyntaf yn uchel dros ben. Roedd yr ail, sawl blwyddyn o waith wedyn, yn sylweddol is. Neges? Mae gweithio ym myd polisi iaith yn gallu dy droi di'n sinig.

Sinigaidd gwmwl, felly, a fu uwch fy mhen ar y ffordd i'r ddarlith hon. Ymgwestiynais: pam ei chynnal yn awr? Beth yw ei diben? Beth fyddai'r 'so what' y byddaf yn gofyn i'm myfyrwyr chwilio amdano mewn dogfennau polisi? Oedd rhywbeth penodol ar fin digwydd ym myd polisi iaith yng Nghymru?

Image caption Dr. Jeremy Evas o Brifysgol Caerdydd (ar y chwith) a'r Gweinidog Alun Cairns AS (dde)

Cliriodd y cwmwl a datgelu fflach o Realpolitik: bydd rheoliadau neu 'safonau' Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn mynd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol yn fuan. Tybed ai galwad gan Weinidog Seneddol Ceidwadol fyddai'r ddarlith ar i Weinyddiaeth Gymreig o liw arall fod yn 'synhwyrol' ac ysgafn o ran rheoleiddio'r iaith? A hynny mewn Prydain lle mae'r wladwriaeth yn cael ei rholio'n ôl, ac i fod i gael llai a llai o ddylanwad ar ein bywydau bob dydd. O, a'r ffaith y gallai'r safonau, gyda chydsyniad Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gael eu gosod ar Gyrff y Goron. A rhyw etholiad ar y gweill hefyd.

Ond wedi'r sinigiaeth, darlith gwbl ddiffuant ei chynnwys a gafwyd, a hynny gan ddyn dymunol. Diffuant, ond diniwed.

Roedd sawl neges yn narlith y Gweinidog - defnyddio'r Gymraeg ar Wales Today, defnyddio mwy ar yr iaith ayb. Ond y brif ddadl oedd gosod dau begwn yn erbyn ei gilydd: rheoleiddio neu hyrwyddo. Rheoleiddio ar draul hyrwyddo. Nid oedd ystyriaeth bod y ddau yn ategu ei gilydd neu'n cael eu cyd-drefnu. Byddai gofyn am ragor o ddeddfwriaeth, felly, yn wrthgynhyrchiol i bolisi iaith.

Llwyr gydnabyddaf y gwahaniaeth y mae'r Gweinidog yn ei wneud rhwng hyrwyddo (perswadio, hysbysu, darbwyllo, darparu, magu hyder, meithrin gallu), a'r ochr rheoleiddio (corff cyhoeddus X i wneud Y yn Gymraeg erbyn Z). Fodd bynnag, gwyddoniaeth 'lwyd' yw cynllunio ieithyddol, ac mae cyflwyno dadl mor ddu a gwyn - er mor ddiffuant ydoedd - yn annigonol i fwrw'r drafodaeth yn ei blaen mewn ffordd ymarferol. Wn i ddim beth yn union a wnawn i pe cawn orchymyn fel gwas sifil neu reolwr prosiect i roi cynnwys yr araith ar waith mewn polisi.

Mae angen rheoleiddio. Mae angen hyrwyddo. Ac mae angen gwerthuso'r ddau yn rheolaidd.

Hefyd, rhyw deimlo yr oeddwn fy mod wedi clywed llawer o'r ddarlith o'r blaen. Roedd "angen ysgwyddo cyfrifoldeb fel unigolion" ac nid oes modd i unrhyw Lywodraeth "ddeddfu bywyd i iaith." A oedd John Walter Jones (Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg 1993-2004) wedi llunio'r datganiad i'r wasg?

Ond mae cynllunio ieithyddol yn fwy cymhleth o dipyn na datganiadau brathseiniog o'r fath. Mae'r fath ddatganiadau hefyd wrth gwrs yn nodweddiadol neo-ryddfrydol. Dim syndod yn hynny o beth o ystyried mai Gweinidog Ceidwadol a oedd yn annerch.

Ond cwympodd yr araith hefyd ar adegau i fagl hirsefydliedig (o sawl plaid a pharti) o ymdrin â'r iaith fel petai'n wrthrych diriaethol y mae modd ei drin, ei newid, a'i gynllunio. Hynny heb roi sylw digonol i'r ffaith mai pobl sy'n defnyddio iaith, a hebddyn nhw, nid oes iaith. Gwell fyddai manylu ar gynnig gwasanaethau i'r bobl hynny mewn modd rhagweithiol yn hytrach na'u beirniadu'n oddefol am beidio â'u defnyddio.

Iawn i wasanaeth fod 'ar gael', ond mae byd o wahaniaeth rhwng 'ar gael' a gwir alluogi defnydd o'r gwasanaeth hwnnw. Ac er mawr clod i'r Gweinidog, fe wnaeth gydnabod yn agored fod cyfrifoldeb ar y Llywodraeth i wneud dewis y Gymraeg yn haws. Da hynny. Os sôn am wasanaethau Cymraeg, eu cynnig yn gwbl ddi-warafun sydd raid, yn rhagweithiol, heb fod yn rhaid gofyn amdanynt. Eu cynnig mewn Cymraeg dealladwy, a gwneud hynny am hir amser. Mae technoleg yn galluogi hyn yn hawdd, ac rwyf yn canmol y Gweinidog am grybwyll yr angen i ddatblygu polisi iaith i'r maes hwn. Fe fyddwn - dyna fy maes ymchwil.

Prin iawn y bydd Gweinidog Ceidwadol yn sianelu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg neu Saunders Lewis yn fy mhrofiad i. Dyna a wnaeth. Cafwyd dyfyniad o un o ddogfennau'r Gymdeithas o'r 1970au "Dim iaith heb waith".

Mae hyn yn galw i gof rhywbeth a ddywedodd cyn Weinidog dros y Celfyddydau, Treftadaeth a'r Gaeltacht yng Ngweriniaeth Iwerddon:

"Dim swyddi, dim pobl, dim pobl, dim iaith, dim iaith, dim Gaeltacht."

Ond ni chlywyd cynlluniau pendant i wireddu ymrwymiad Gweinidog y Llywodraeth "ar ben pellaf yr M4" i greu swyddi "a fydd yn creu cyfleoedd er mwyn i'n pobl ifanc aros yn eu cymunedau."

Tawaf â'm sôn a'ch gadael chithau i wylio fideo o araith Alun Cairns AS ym Mhrifysgol Caerdydd. Chwiliwch am y 'so what' tra mod i'n ail-wneud fy mhrawf Polyanna.

Straeon perthnasol