Saith Diwrnod

Meredydd Evans yn Aberystwyth yn 2011 - llun Diarmuid Johnson Image copyright Diarmuid Johnson
Image caption Meredydd Evans yn Aberystwyth - Calan Mai 2011

Catrin Beard yn cofio am dri o fawrion Cymru fu farw yr wythnos hon, yn ei hadolygiad wythnosol o'r wasg Gymraeg a'r blogiau.

Mae yna fisoedd bron cynddrwg wedi bod o'r blaen, medd Dylan Iorwerth yn Golwg. Ym mis Ionawr 1970 bu farw DJ Williams, Cynan a Syr Ifan ab Owen Edwards. Ond mae Chwefror eleni wedi bod yn frwnt.

Roedd colli Meredydd Evans a John Rowlands o fewn dyddiau i'w gilydd - o fewn llai nag wythnos i farwolaeth John Davies yr hanesydd - yn neilltuol o galed, nid dim ond am yr hyn yr oedden nhw eu hunain wedi ei gyflawni ond oherwydd eu hysbrydoliaeth i eraill.

Ceir atgofion hoffus ac annwyl yn y wasg yr wythnos hon am y ddau gymeriad - John Rowlands yn ddyn tawel ac yn boenus o wylaidd, fel dywed Dylan Iorwerth, ond a ysbrydolodd genhedlaeth gyfan o awduron newydd disglair.

Image copyright Lluniau Llwyfan: Eisteddfod
Image caption John Rowlands yn beirniadu o lwyfan y brifwyl yn 2012 (Llun: Lluniau Llwyfan)

Yn ôl Elan Closs Stephens ar Cymru Fyw, roedd yn ŵr oedd yn ehangu gorwelion Cymreictod, yn gynnes ac yn addfwyn ond yn glir ei safonau, yn llym ei feirniadaeth ac yn gadarn yn ei ddaliadau.

Ac mae'r cofio am Merêd yn cwmpasu ehangder y gymdeithas Gymraeg. Pwysleisio ei ysgolheictod wna'r Athro Geraint Jenkins ar Cymru Fyw. Petai wedi dewis gwneud hynny, meddai, gallai fod wedi dod yn athronydd o bwys Ewropeaidd. Ond roedd Cymru'n galw a mil o bethau eraill i'w gwneud.

Enaid unigryw ydoedd yn ôl Angharad Tomos yn yr Herald - gŵr cadarn ei safiad ond eto'n llawn cariad; dyn y dolenni, yn cysylltu pobl â'i gilydd ac yn canfod yr elfen bersonol ym mhob sefyllfa.

Braint oedd ei adnabod medd y canwr Gai Toms ar Cymru Fyw, sy'n cofio dod ar ei draws yng nghaffi'r Llyfrgell Genedlaethol lle bu'r ddau yn trafod popeth dan haul, o Meic Stevens i draddodiad y caban, o draethawd prifysgol Gai i wleidyddiaeth ac athroniaeth. O'r diwrnod hwnnw, nid enigma ydoedd ond cawr o ddyn.

Image copyright Celf Calon / Y Selar
Image caption Noson lwyddiannus arall yng Ngwobrau'r Selar

Yn ôl erthygl olygyddol Golwg, er bod rhai'n son am seiliau Cymreictod yn gwegian wrth i ni golli'r cewri addfwyn hyn, mae'n bwysig cofio bod yna do ifanc brwdfrydig o Gymry sy'n dal wrthi yn creu a diddanu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ac ar flog Golwg 360, mae Miriam Elin Jones yn adolygu noson Gwobrau'r Selar yn Aberystwyth. Noson o ddathlu oedd hon, meddai, nid yn unig dathlu buddugwyr y noson, ond dathlu bod yna gynifer ohonom (tua 700 yn ôl pob sôn) yn barod i fentro i Aberystwyth ganol gaeaf i un o gigiau gorau'r flwyddyn.

Tybed beth fyddai ymateb Merêd a'r ddau arall i araith Alun Cairns yr wythnos hon ynglŷn â'r Gymraeg, darlith yn ôl Dr Jeremy Evas ar Cymru Fyw oedd yn gwbl ddiffuant ei chynnwys. Diffuant, ond diniwed, ac yn ôl Dr Evas, fe gwympodd yr araith i fagl hirsefydliedig o ymdrin â'r iaith fel gwrthrych diriaethol y mae modd ei drin, ei newid, a'i gynllunio heb roi sylw digonol i'r ffaith mai pobl sy'n defnyddio iaith, a hebddyn nhw, nid oes iaith.

Image caption Dr. Jeremy Evas o Brifysgol Caerdydd (chwith) a'r Gweinidog Alun Cairns AS (dde)

Gwell meddai fyddai manylu ar gynnig gwasanaethau i'r bobl mewn modd rhagweithiol yn hytrach na'u beirniadu'n oddefol am beidio â'u defnyddio. Iawn i wasanaeth fod 'ar gael', ond mae byd o wahaniaeth rhwng 'ar gael' a gwir alluogi defnydd o'r gwasanaeth hwnnw.

Wrth gofio'r cymeriadau nodedig a gollwyd y mis hwn, mae'n werth felly i ni wrando ar gyngor golygyddol Golwg, ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom ni i wneud yr ymdrech fach i gerdded stryd fawr ein trefi a dinasoedd a dangos i'r byd ein bod ni yma o hyd.