Model Rhuddlan
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Castell Rhuddlan mewn 50,000 o ddarnau

27 Chwefror 2015 Diweddarwyd 07:29 GMT

Dyma fodel o Gastell Rhuddlan yn Sir Ddinbych, ond nid model arferol yw hwn oherwydd ei fod wedi ei greu o Lego.

Fe gymrodd chwe wythnos a 50,000 o ddarnau Lego i Bob Carney, meddyg sydd wedi ymddeol o Illinois yn yr Unol Daleithiau, i adeiladu'r model.

Cafodd ei greu fel rhan o gystadleuaeth Cadw, sy'n gofyn i deuluoedd adeiladu modelau o'u hoff atyniadau yng Nghymru.

Mr Carney ei hun fydd yn beirniadu'r gystadleuaeth pan fydd yn ymweld â Chymru am y tro cyntaf ym mis Mai.