Clegg: 'Cam tuag at Ymreolaeth i Gymru'

Nick Clegg
Image caption Addawodd Mr Clegg hwb mewn gwariant o £450m i Gymru

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, wedi dweud wrth aelodau'r blaid ddydd Gwener na fyddai datganoli pellach wedi digwydd heb ddylanwad ei blaid yn llywodraeth glymblaid y DU.

Fe wnaeth Mr Clegg a'r Prif Weinidog David Cameron ill dau gyhoeddi cynlluniau ddydd Gwener i warantu na fydd cyllid Llywodraeth Cymru yn disgyn yn is na lefel benodol - y llawr Barnett fel y gelwir - a datganoli pwerau dros ynni a thros faterion y Cynulliad.

Yn ei araith i rali cynhadledd wanwyn Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yng Nghaerdydd nos Wener, dywedodd Mr Clegg, "rydym wedi cymryd cam tuag at Ymreolaeth i Gymru gyda'r pwerau newydd yng nghytundeb Dydd Gŵyl Dewi".

£450m i Gymru

Addawodd hwb mewn gwariant o £450m i Gymru o ganlyniad i fwriad ei blaid i wario tua £8 biliwn ar y GIG os ydyn nhw mewn llywodraeth ar ôl yr etholiad mis Mai.

Fe wnaeth hefyd feirniadu ei gydweithwyr yn y glymblaid yn San Steffan drwy ddweud: "Ni fyddai hyn wedi digwydd heb y Democratiaid Rhyddfrydol. Nid yw rhoi pŵer i ffwrdd yn dod yn naturiol i'r Ceidwadwyr.

"Ni fyddai argymhellion Silk wedi cael eu rhoi ar waith o gwbl heb fod gweinidogion y Democratiaid Rhyddfrydol yn eistedd wrth fwrdd y cabinet, gan ddadlau drosodd a throsodd o blaid datganoli grym i Gymru."

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cynnal eu cynhadledd flynyddol y penwythnos hwn, ac mae ffynonellau o fewn y blaid yn dweud eu bod yn blaenoriaethu dal eu gafael ar y tair sedd a enillwyd ganddyn nhw yn etholiad 2010 - Canol Caerdydd, Ceredigion a Brycheiniog a Maesyfed - yn ogystal ag adennill sedd Sir Drefaldwyn a gollwyd i'r Ceidwadwyr.

Fe wnaeth ymgeiswyr y blaid yn Sir Drefaldwyn a Cheredigion ymuno ag ef ar y llwyfan, yn arwydd clir o fwriad etholiadol y Democratiaid Rhyddfrydol.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.