Mwy o ddatganoli i Gymru medd Cameron a Clegg

David Cameron a Nick Clegg
Image caption David Cameron a Nick Clegg yn cyhoeddi'r cynlluniau yn Stadiwm y Mileniwm

Mae David Cameron a Nick Clegg wedi cyhoeddi cynlluniau i drosglwyddo mwy o bwerau o San Steffan i Gymru ddydd Gwener, ar ôl misoedd o drafodaethau trawsbleidiol.

Mae'r cynlluniau yn cynnwys gwarantu lleiafswm o gyllid ar gyfer Llywodraeth Cymru a chaniatáu i weinidogion yng Nghymru godi arian o'r marchnadoedd arian ar gyfer prosiectau mawr.

Fe fydd penderfyniadau ar ffracio ac ystod ehangach o brosiectau ynni yn cael eu datganoli, yn ogystal â rheoli etholiadau'r cynulliad.

Mae'r ddau arweinydd yng Nghymru i annerch cynadleddau Cymreig eu pleidiau ddydd Gwener.

Isafswm cyllid

Deellir bod gweinidogion llywodraeth y DU wedi mynnu y byddai'r addewid am isafswm cyllid yn gyfnewid am gytundeb gan weinidogion Cymreig i sbarduno refferendwm ar drosglwyddo pwerau treth incwm i Gymru.

Ond mae hyn wedi cael ei newid i "ddisgwyliad" am gynnal pôl o'r fath, yn dilyn gwrthwynebiad gan weinidogion Llafur Cymru ac arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, wrth BBC Cymru nad oedd gan Lywodraeth Cymru "unrhyw le i fynd" bellach mewn unrhyw ddadl ynglŷn â chynnal refferendwm ar ddatganoli treth incwm.

Ond brynhawn Gwener, dywedodd Carwyn Jones wrth BBC Cymru "nad oes cwestiwn" o refferendwm ar yr hawl i amrywio treth incwm i Gymru, os nad oes eglurder dros ariannu Cymru yn dod o San Steffan.

Image caption Yn ôl Mr Cameron dyma'r cam nesaf i sicrhau bod y "Deyrnas Unedig yn gryfach a thecach"

Ym mhapur Llywodraeth y DU, mae pwerau i osod cyfyngiadau cyflymder cenedlaethol hefyd yn cael eu nodi, ynghyd ag addewid i ystyried rhinweddau datganoli Toll Teithwyr Awyr.

Gyda'r etholiad cyffredinol 10 wythnos i ffwrdd, fe fydd pleidleiswyr yn penderfynu pa un o'r pleidiau gwleidyddol fydd mewn sefyllfa i fwrw ymlaen â'r cynlluniau ar ôl 7 Mai.

Yn ôl Mr Cameron, dyma yw'r "cam diweddaraf i ddod o hyd i setliad parhaol ar draws y wlad i wneud ein Teyrnas Unedig yn gryfach a thecach".

Dywedodd: "Rydym yn awyddus i gyflwyno pwerau newydd i Gymru fel bod mwy o benderfyniadau yn cael eu cymryd yn agosach at y bobl a rhoi mwy o gyfrifoldeb i'r Cynulliad Cenedlaethol - sy'n golygu bod y rhai sy'n gwario arian trethdalwyr yn fwy cyfrifol am ei godi."

"Dyma sy'n iawn i Gymru, ac y bydd yn gwneud gwleidyddiaeth yng Nghymru yn fwy cystadleuol a helpu llywodraethu cyfrifol."

Gwrthododd yr awgrym bod datganoli £6 biliwn o wariant y Gwasanaeth Iechyd i Fanceinion yn golygu nad yw refferendwm ar ddatganoli treth incwm yn angenrheidiol yng Nghymru.

'Dim rhwystr'

Dywedodd ei ddirprwy, Mr Clegg ei fod yn "falch iawn o gael dod i Gymru i gyhoeddi'r setliad cyfansoddiadol newydd, carreg filltir arall ar daith datganoli".

Ychwanegodd bod yr addewid am leiafswm o gyllid yn golygu nad oes rhwystr i gynnal refferendwm ar bwerau treth incwm.

Ymatebodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones i'r cyhoeddiad drwy ddweud: "Nodaf yr hyn a ddywedwyd gan y Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog y bore yma, ac mae rhywfaint o gynnydd i'w groesawu mewn rhai meysydd.

"Dylid canmol y rhai o bob plaid sydd wedi gweithio i gael rhywbeth o'r broses frysiog ac anfoddhaol yma.

"Fodd bynnag dyw Cymru ddim yn cael yr un parch ag sy'n cael ei roi i'r Alban, ac mae'r anghydbwysedd yma'n niweidiol i'r DU.

"Byddwn yn ystyried manylion y cynigion cyn ymateb yn llawn yn y Cynulliad Cenedlaethol ddydd Mawrth."

Ychwanegodd bod "y cynigion yn mynd rhywfaint o'r ffordd i gwrdd â chynlluniau Llafur am ddatganoli a gyhoeddwyd gan Ed Miliband, ond maent yn methu mewn meysydd allweddol - megis ar blismona".

Yn gynharach, roedd llefarydd ar ran Llafur Cymru wedi croesawu "unrhyw gynnydd tuag at roi sylfaen fwy cadarn i'r setliad datganoli yng Nghymru".

Ond mi wnaeth y llefarydd feirniadu diffyg "cydraddoldeb" gyda'r Alban yn y cynnig, gan ymosod ar y Ceidwadwyr am ddisgwyl "tan ddiwrnodiau olaf oes y senedd hon er mwyn cychwyn trafod trefn ariannu deg i Gymru".

'Cyfle wedi'i golli'

Mae Plaid Cymru wedi datgan eu siomedigaeth ynglŷn â phapur gorchymyn Llywodraeth y DU ar ddatganoli pellach.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood bod y cynllun newydd yn "cyferbynnu'n llwyr" â beth sy'n cael ei gynnig i'r Alban.

"Mae Cymru wedi cael ei gadael ar ôl, ac mae'n rhaid i hynny newid, ac mae hwn yn gyfle sydd wedi'i golli i wneud hynny," meddai wrth raglen Today BBC Radio Four.

Straeon perthnasol