Dyn o Gaernarfon yn euog o dreisio

Llys y Goron Yr Wyddgrug
Image caption Mae'r achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug

Mae dyn 73 oed o Gaernarfon wedi ei gael yn euog o dreisio merch mewn cae ym Mhrestatyn.

Roedd Malcolm Donaldson yn mynnu mai adre oedd o adeg yr ymosodiad, a bod tystiolaeth DNA sy'n ei gysylltu â'r drosedd wedi ei llygru.

Ond wedi iddyn nhw ystyried eu penderfyniad am ychydig dros awr a hanner, roedd y rheithgor yn unfryd eu barn.

Mae Donaldson wedi ei gadw yn y ddalfa nes cael ei ddedfrydu.

Straeon perthnasol