'Angen cyflog byw i'r sector cyhoeddus' medd Ceidwadwyr

Andrew RT Davies
Image caption Mae Andrew RT Davies eisiau "gosod esiampl glir i bob cyflogwr i werthfawrogi a buddsoddi yn eu staff"

Dylai pob gweithiwr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru dderbyn cyflog byw, yn ôl neges gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig mewn araith ddydd Sadwrn.

Mewn araith i gynhadledd ei blaid yng Nghaerdydd, dywedodd Andrew RT Davies y byddai'r newid yn cael ei wneud erbyn 2021 os bydd ei blaid mewn grym ym Mae Caerdydd.

Mae'r cyflog byw tu allan i Lundain yn £7.85 yr awr, o'i gymharu ag isafswm cyflog o £6.50.

Byddai tua 313,000 o weithwyr yn cael eu heffeithio, am gost ychwanegol flynyddol o tua £18m

'Gwlad cyflog byw'

Dywedodd Mr Davies: "Nid ydym yn mynd i fod ar ochr anghywir y ddadl ar hyn.

"Rydym yn mynd i roi grym i fusnesau preifat i gyflwyno'r cyflog byw, rydym yn mynd i'w gyflwyno yn y sector cyhoeddus, fel yn 2021 gallwn ddweud yn onest mai Cymru yw'r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i fod yn wlad cyflog byw yn y Deyrnas Unedig."

Dadleuodd bod y Ceidwadwyr Cymreig "ar ochr y bobl sy'n gweithio'n galed ac sydd am ddod ymlaen mewn bywyd".

Ychwanegodd: "Ar ôl 16 mlynedd o lywodraethau Llafur olynol, Cymru yw rhan dlotaf y Deyrnas Unedig gyda nifer o bobl ar gyflogau isel, gan eu dal mewn tlodi.

"Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi ac amddifadedd.

"Mae hyn yn anfon neges glir y bydd Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru yn mynd i'r afael â chyflogau annheg ac yn gosod esiampl glir i bob cyflogwr i werthfawrogi a buddsoddi yn eu staff."

'Arwyr'

Image caption Yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May yn amddiffyn y gwasanaethau diogelwch

Fore Sadwrn yn y gynhadledd, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May amddiffyn y gwasanaethau diogelwch ar ôl beirniadaeth eu bod wedi methu ag atal Mohammed Emwazi, a elwir yn 'Jihadi John', rhag ymuno â'r Wladwriaeth Islamaidd yn Syria.

"Efallai na fyddwch yn gweld y gwaith y maent yn ei wneud, efallai nad ydych yn gwybod am y risgiau y maent yn eu cymryd, efallai na fyddwch yn cael gwybod am y cynllwynion maent wedi eu hatal a'r bywydau maent wedi eu hachub," meddai.

"Ond mae'r dynion a'r menywod rhyfeddol hyn yn arwyr ac maent yn haeddu cefnogaeth a pharch bob un ohonom."

Yn ystod sesiwn y prynhawn, disgrifiodd Ruth Davidson, arweinydd Ceidwadwyr Yr Alban, ei phlaid fel "asgwrn cefn" ymgyrch lwyddiannus y llynedd ar gyfer pleidlais 'Na' yn refferendwm annibyniaeth Yr Alban.

Dywedodd mai'r wers a ddaeth o'r bleidlais oedd "pan fyddwch yn sefyll i fyny dros eich gwerthoedd, pan fyddwch yn ddiedifar wrth gyflwyno eich achos, yna mae pobl yn eistedd i fyny a chymryd sylw".

'Setliad newydd'

Image caption "Mae'n bwysig iawn i gael setliad newydd, rhyw fath o ffederasiwn," yn ôl David Davies AS

Hefyd yn y gynhadledd, wrth siarad â'r BBC, dywedodd David Davies, AS Sir Fynwy, na fydd y trafod am ddatganoli yn tawelu oherwydd "pob tro mae'r cynulliad yn cael mwy o rym, y diwrnod wedyn neu'r wythnos wedyn byddan nhw'n gofyn am fwy o rym.

"Bydd byth yn dod i ben tan fod y cynulliad yn senedd hollol annibynnol," meddai.

"Dwi'n meddwl bod hynny yn debyg, efallai yn fy oes i pe buasem ni ddim yn datrys yr holl broblem gyfansoddiadol, gyda'r West Lothian Question ac yn y blaen.

"'Dwi eisiau gweld Cymru fel rhan o Brydain, ond pe buasem eisiau sicrhau hyn, mae'n bwysig iawn i gael setliad newydd, rhyw fath o ffederasiwn, fel Awstralia neu Canada. Ar hyn o bryd mae'r holl beth yn ansefydlog iawn."

Straeon perthnasol