Datganoli: Ymateb 'rhyfedd' meddai Stephen Crabb

Stephen Crabb Image copyright Reuters
Image caption Dywedodd Mr Crabb ei fod yn gobeithio am ragor o drafodaethau "cadarnhaol" gyda Carwyn Jones.

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i ddiwygiadau arfaethedig i'r ffordd y mae'n cael ei hariannu o'r Trysorlys yw "rhyfedd", meddai Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb ddydd Sul.

Ar ôl misoedd o drafodaethau trawsbleidiol, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddydd Gwener ei bod eisiau cyflwyno 'llawr' arian, sef isafswm incwm gwarantedig ar gyfer Bae Caerdydd.

Mae bellach yn awyddus i Lywodraeth Lafur Cymru i ddefnyddio ei phwerau i alw refferendwm ar ddatganoli rheolaeth rannol o dreth incwm.

Ond brynhawn Gwener, dywedodd Carwyn Jones "nad oes cwestiwn" o refferendwm ar yr hawl i amrywio treth incwm i Gymru, os nad oes eglurder dros ariannu Cymru yn dod o San Steffan, gan gynnwys y lefel lle byddai'r 'llawr' yn cael ei osod.

'Symud mynyddoedd'

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Mr Crabb bod y 'llawr' a gynigir yn ymateb i ofynion penodol gan Lywodraeth Cymru.

Meddai: "Rydym wedi symud mynyddoedd ar ein hochr ni, rydym wedi darbwyllo Whitehall a'r Trysorlys, ac mae braidd yn rhyfedd i Lywodraeth Cymru a Carwyn Jones i ddweud nad yw hyn yn newid dim, pan maent yn gwybod pa mor bell yr ydym wedi symud, ac wedi symud i'r union gyfeiriad maent hwy eu hunain wedi bod yn dymuno. "

Dywedodd Mr Crabb ei fod yn gobeithio am ragor o drafodaethau "cadarnhaol" gyda Mr Jones.

Ond ychwanegodd: "Rydym wedi cael rhai trafodaethau eithaf manwl am ateb i anghenion ariannol hirdymor Cymru.

"Daeth Jane Hutt, Gweinidog Cyllid Cymru, i gyfarfod arbennig yn y Trysorlys gyda fi a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys i drafod ateb i gyllid hirdymor Cymru.

"Roedd yr hyn a gyhoeddwyd ddoe yn unol â hynny."

Cyllideb o £15bn

Mae cyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru tua £15 biliwn, ond mae beirniaid yn dweud nad yw'r fformiwla bresennol a ddefnyddir i gyfrifo'r union ffigur yn deg.

Dywedodd llefarydd ar ran Mr Jones: "Mae'r ymgais unfed awr ar ddeg i gysylltu cyllid teg i refferendwm treth yn bradychu'r gwendid wrth wraidd ddadl y Torïaid. Mae rhywbeth naill ai'n deg neu ddim yn deg. Os yw tegwch yn cael ei gynnig, ni all ddod gyda llinynnau ynghlwm".

Ychwanegodd bod cynllun Llafur ar gyfer datganoli yn "mynd ymhellach na chynllun y glymblaid, ac yn uchelgeisiol i Gymru."

'Anhrefnus'

Yn y cyfamser, mae penderfyniadau ar ddatganoli ac ariannu ar draws y DU wedi cael eu beirniadu fel rhai "anhrefnus" gan economegydd blaenllaw ddydd Sul.

Bydd Gerry Holtham - a ddywedodd yn 2009 bod Cymru yn cael ei thanariannu o tua £300m y flwyddyn - yn cael ei wahodd gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys Danny Alexander i ddiweddaru ei astudiaeth ar ôl i lywodraeth y DU addo i warantu isafswm cyllido.

Dywedodd Mr Holtham wrth BBC Radio Wales ddydd Sul y gallai tanariannu yn awr fod hanner ei amcangyfrif gwreiddiol, a gallai'r addewid o 'lawr' ariannol fod yn werth £2bn yn ychwanegol i Gymru dros 10 mlynedd.

Fodd bynnag, fe wnaeth e hefyd feirniadu llywodraeth y DU am ei hymagwedd dameidiog i ddatganoli.

"Maen nhw'n taro bargeinion fan hyn a fan draw, yn aml iawn yn gwrth-ddweud ei gilydd - gall Gogledd Iwerddon gael pwerau dros dreth gorfforaeth, ond ni all Cymru na'r Alban.

"Does dim rhesymeg sylfaenol.

"Ni fyddai rhywun yn disgwyl cymesuredd cyflawn oherwydd bod yr amgylchiadau yn wahanol yn y gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig. Ac mae'r awydd am annibyniaeth yn wahanol mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig.

"Felly ni fyddwn yn disgwyl setliad hollol gymesur. Ond mae'n anhrefnus iawn ar hyn o bryd."

Mwy am y stori hon ar Sunday Politics Wales, BBC1, 1100 Dydd Sul.

Straeon perthnasol