Rygbi Pro12

Gleision Image copyright Huw Evans picture agency

Cafodd y Gleision fuddugoliaeth o 21-15 yn erbyn Caeredin yn y Pro12, ond colli oedd hanes Dreigiau Gwent yn erbyn Zebre yn yr Eidal.

Llwyddodd y Gleision i sgorio tri chais gan Lloyd Williams, Ellis Jenkins a Rhys Patchell, a daeth dau gais i'r ymwelwyr - gyda Tim Visser a Roddy Grant yn croesi'r llinell i'r tîm o'r Alban.

Bydd yn Gleision yn croesawu'r fuddugoliaeth ar ôl wythnos anodd oddi ar y cae.

Colli oedd hanes Dreigiau Gwent oddi cartref yn erbyn Zebre - gyda'r sgor terfynol yn 23-17 i'r Eidalwyr.