Llafur yn gwadu 'rhwystro' datganoli pellach

David Cameron a Nick Clegg
Image caption David Cameron a Nick Clegg yn cyhoeddi'r cynlluniau yn Stadiwm y Mileniwm

Nid yw cynlluniau i ddatganoli mwy o rym i Gymru yn cael eu rhwystro gan lefarydd y blaid Lafur ar Gymru Owen Smith, mae Llafur wedi mynnu.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn honni mai Mr Smith oedd y "prif rwystr" yn y trafodaethau ynghylch cytundeb Dydd Gŵyl Dewi.

Dywedodd arweinydd y Torïaid yng Nghymru, Andrew RT Davies bod Llafur wedi "tanseilio" y Prif Weinidog Carwyn Jones, drwy beidio â gadael i gytundeb Dydd Gŵyl Dewi fod yn fwy pellgyrhaeddol.

Yn ôl Jenny Willott, AS y Democratiaid Rhyddfrydol, mae Mr Smith "yn llai cyfeillgar tuag at ddatganoli na rhai o'i gydweithwyr ".

Mae Llafur Cymru wedi gwrthod yr honiadau fel "nonsens llwyr".

Ddydd Gwener, fe wnaeth David Cameron a Nick Clegg gyhoeddi cynlluniau i drosglwyddo mwy o bwerau o San Steffan i Gymru, ar ôl misoedd o drafodaethau trawsbleidiol.

'Tanseilio Carwyn Jones'

Dywedodd Mr Davies wrth y BBC ddydd Sul bod rhagor o ddatganoli "wedi cael eu hatal gan Lafur yn Llundain.

"Felly, mewn gwirionedd maent wedi tanseilio Carwyn Jones yma yng Nghymru," ychwanegodd.

Ond mewn ymateb dywedodd ffynhonnell o fewn Llafur Cymru: "Mae Cytundeb Dydd Gŵyl Dewi wedi dod yn ddim mwy nag ymgiprys gwleidyddol i'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Torïaid.

"Roedd i fod yn seiliedig ar gonsensws trawsbleidiol, ond nid oedd byth unrhyw gytundeb gwirioneddol ar faterion allweddol, nid hyd yn oed rhwng y Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol .

"Mae'n ddealladwy eu bod yn ddig ac yn chwilio am rywun i'w feio, er efallai y dylent fod yn edrych yn nes adref."

Image caption Mae Llafur Cymru wedi gwrthod yr honiadau fel "nonsens llwyr".

Straeon perthnasol