Newid hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf, yn ôl arolwg

Llifogydd
Image caption Yr amgylchedd yw'r mater sy'n peri'r pryder mwyaf yn ôl yr arolwg

Newid hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf i genedlaethau'r dyfodol, yn ôl canlyniadau arolwg sydd wedi eu cyhoeddi ddydd Llun.

Fe wnaeth arolwg 'Y Gymru a Garem' gasglu ymateb 7,000 o bobl ar draws Cymru ynglŷn â sut Gymru fydden nhw'n hoffi gweld yn y dyfodol.

Yn ogystal a newid hinsawdd, swyddi a sgiliau a'r amgylchfyd yw'r prif faterion fydd yn allweddol ar gyfer lles pobl yn y dyfodol, yn ôl yr arolwg.

Roedd yr arolwg yn rhan o Sgwrs Genedlaethol ymgyrch 'Y Gymru a Garem' gan Lywodraeth Cymru.

'Newid hinsawdd'

Fel rhan o'r arolwg fe ofynnwyd i bobl sut fath o wlad y hoffen weld ar gyfer eu plant a'u hwyrion, ac mae'r ymateb wedi'i ddefnyddio i baratoi Mesur Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Mae canlyniadau'r adroddiad yn pwysleisio bod angen sicrhau'r dechrau gorau i blant, mai newid hinsawdd yw'r mater pwysicaf sy'n wynebu cenhedlaethau'r dyfodol, ac mai'r amgylchedd yw'r mater sy'n peri'r pryder mwyaf.

Image caption Mae angen rhoi'r dechrau gorau i blant hefyd yn ôl y canlyniadau

Mae creu swyddi newydd a denu buddsoddiad i sicrhau bod economiau lleol yn ffynnu hefyd yn flaenoriaeth.

Pan ofynnwyd i bobl pa fater oedd y pwysicaf wrth edrych tua'r dyfodol, mi wnaeth 26% ddweud newid hinsawdd, 16% sgiliau ac addysg, 14% yr amgylchedd naturiol a 13% cyflogaeth.

Saith sylfaen

Mae'r adroddiad yn cynnig saith gwerth sydd fwyaf pwysig i bobl Cymru:

  • Mae angen i blant gael y dechrau gorau mewn bywyd o'r blynyddoedd cynnar iawn.
  • Mae ar genedlaethau'r dyfodol angen cymunedau ffyniannus wedi'u hadeiladu ar ymdeimlad cryf o le.
  • Mae byw o fewn cyfyngderau amgylcheddol byd-eang, rheoli ein hadnoddau'n effeithiol a gwerthfawrogi ein hamgylchedd yn hanfodol.
  • Mae buddsoddi yn ein heconomi leol gynyddol yn hanfodol er lles cenedlaethau'r dyfodol.
  • Mae lles pawb yn dibynnu ar leihau anghydraddoldeb a gosod mwy o werth ar amrywiaeth.
  • Mae ymgysylltu fwy yn y broses ddemocrataidd, llais cryfach i'r dinesydd a chyfranogiad gweithredol mewn gwneud penderfyniadau yn sylfaenol ar gyfer llesiant cenedlaethau'r dyfodol.
  • Bydd dathlu llwyddiant, a gwerthfawrogi ein treftadaeth, ein diwylliant a'n hiaith yn cryfhau ein hunaniaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

'Gennym i gyd ran i'w chwarae'

Dywedodd Peter Davies, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, bod yr arolwg wedi bod "yn gyfle i edrych y tu hwnt i bwysau byrdymor bywyd bob dydd ac i drafod y wlad yr ydym am ei gadael i'n plant ac i blant ein plant".

"Mae'r Sgwrs a'r Adroddiad hefyd yn pwysleisio nad dim ond cyfrifoldeb y llywodraeth yw sicrhau bod hyn yn digwydd - mae gennym i gyd ran i'w chwarae."

Image caption Dywedodd Carl Sargeant bod y mesur newydd wedi ei greu o ganlniad ganfyddiadau'r arolwg

Ychwanegodd Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol mai "pwrpas y sgwrs hon oedd canfod sut fath o Gymru y mae pobl am ei gweld, heddiw ac yn y dyfodol" a bod y canlyniadau yn rhan ganolog o'r mesur newydd.

"Y Bil hwn yw'r darn mwyaf uchelgeisiol a phellgyrhaeddol o ddeddfwriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cynnig arni erioed, ac mae 'Y Gymru a Garem' yn dangos bod modd i ni ymgysylltu'n ystyrlon â phobl mewn cysylltiad â deddfwriaeth."

Straeon perthnasol