Clwb Pêl-droed Caerdydd: Ystyried camau cyfreithiol

Malky Mackay Image copyright Getty Images

Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn ystyried cymryd camau cyfreithiol dros honiadau bod y cyn-reolwr Malky Mackay wedi anfon negeseuon testun "hiliol a homoffobig" yn ystod ei gyfnod efo'r clwb.

Maen nhw wedi cyflwyno tystiolaeth newydd i'r Gymdeithas Bêl-droed, sydd'n ymchwilio i'r honiadau.

Ond mae'r clwb yn teimlo'n fwyfwy rhwystredig oherwydd yr amser ma'r FA yn ei gymryd i gwblhau eu ymchwiliad.

Mae perchennog y clwb, Vincent Tan a'i gyfoedion o fewn y clwb yn ystyried mynd a'r achos ymhellach - os nad yw'r FA yn adrodd eu canfyddiadau cyn bo hir.

Ymhlith y camau posib bydd mynd a'u hachos at gorff llywodraethu pêl-droed FIFA, neu at y Llys Cymodi Chwaraeon (Court of Arbritration for Sport).