Joe Woolford
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

'Rapiwr Rhuthun' a The Voice

3 Mawrth 2015 Diweddarwyd 09:31 GMT

Os ydych chi'n gwylio The Voice, fyddwch chi'n gwybod am Joe Woolford. Mi wnaeth y canwr o Ruthun blesio'r beirniaid eto nos Sadwrn diwetha', wrth i Rita Ora ei ddewis dros Ryan Green, a'i roi drwodd i'r rownd nesa'.

Mae Joe, 19 oed, yn gweithio yn Ysgol Brynhyfryd yn Rhuthun, ac Alex Humphreys aeth yno i'w holi ar ran BBC Cymru.