Profion DNA ar raglen S4C yn 'embaras i wyddoniaeth'?

DNA Image copyright Thinkstock

Mae arbenigwr ym maes geneteg wedi dweud bod profion DNA sy'n cael eu defnyddio i geisio darganfod hanes y Cymry "yn achosi embaras i fyd gwyddoniaeth".

Bwriad prosiect Cymru DNA Wales, sy'n bartneriaeth rhwng S4C, y Western Mail, y Daily Post a Green Bay Media, yw ceisio darganfod pwy yw hynafiaid pobl Cymru.

Ar ôl gweld y gyfres, dywedodd yr Athro Mark Thomas, sy'n arbenigwr mewn geneteg o Goleg y Brifysgol Llundain, bod y dull profi sy'n cael ei ddefnyddio ar raglen S4C yn "dwyn anfri ar fyd gwyddoniaeth".

Mae S4C yn dweud bod gyda nhw hyder yn eu prosesau gwyddonol, ac y byddai'r ddadl yn cael ei thrafod yn ystod y gyfres.

'Dadansoddiad o DNA hynafiadol'

Mae cynllun Cymru DNA yn honni ei fod yn defnyddio profion DNA er mwyn ceisio deall llinachau pobl Cymru.

Yn rhan o'r prosiect mae cyfres o raglenni ar S4C gyda'r bwriad o "gynnal yr arolwg mwyaf o'r DNA hynafiadol sy'n bresennol ym mhoblogaeth Cymru".

Dywed S4C bod y canlyniadau wedi "eu seilio ar ddadansoddiad o DNA hynafiadol", sy'n galluogi i wyddonwyr "olrhain llinach nôl i'r gorffennol pell".

Image caption Mae Dafydd Iwan yn un o'r nifer o enwogion sydd wedi ei brofi fel rhan o'r cynllun

Mae'r rhaglen yn dilyn llinachau rhai o enwogion Cymru dros y cenedlaethau, gan gynnwys y chwaraewr rygbi Gareth Edwards sy'n darganfod fod ganddo gysylltiadau "i'r Almaen, Denmarc, Sgandinafia a hyd yn oed at y Folga yn nwyrain Ewrop".

Mae S4C yn cydnabod bod "llawer o hynafiaid eraill wedi cyfrannu tuag at broffil genetig" y rhai sydd yn y rhaglen.

'Embaras i fyd gwyddoniaeth'

Mewn erthygl ar wefan yr elusen wyddonol, Sense about Science, dywedodd yr Athro Thomas nad yw'r profion yn gallu cadarnhau yr hyn y maen nhw'n honni, ac nad ydyn nhw'n fwy nag "astroleg enetig".

Yn yr erthygl ar y cyd gyda'r Athro David Balding, dywedodd: "Nid yw'r wybodaeth y maen nhw'n ei roi yn unigryw i unrhyw unigolyn."

Ychwanegodd bod y "pwynt sylfaenol yna yn golygu bod y syniad o brofion llinach unigol yn ansicr".

Image caption Sampl o boer sydd ei angen er mwyn profi DNA unigolyn

Ar ôl gweld pennod gyntaf y gyfres ar S4C, dywedodd yr Athro Thomas wrth Cymru Fyw bod y profion yn rhoi un posibilrwydd ond dim sicrwydd.

"Ar ddiwedd y dydd dim ond un stori enetig yw hon, nid llinach," meddai.

"Gall unrhyw un gynnig damcaniaeth - ond nod gwyddoniaeth yw profi hynny. Y broblem yw bod llawer iawn iawn o straeon gwahanol all ei esbonio."

Ychwanegodd bod defnyddio'r dull ar gyfer y prosiect DNA Cymru yn "dwyn anfri ar fyd gwyddoniaeth ac yn achosi embaras i fyd gwyddoniaeth".

"Nid yw'n ddull dilys o gasglu hanes genetig o ddata."

Cwynion

Mae'r Athro Thomas a chyd-weithiwr, yr Athro David Balding, wedi datgan eu pryderon am y wyddoniaeth sawl tro yn y gorffennol, ac wedi cwyno i'r BBC am roi sylw i'r cwmni sy'n cynnal y profion ar ei raglenni.

Fe wnaeth y ddau gwyno yn benodol am gyfweliad gydag Alistair Moffat, rheolwr gyfarwyddwr Cymru DNA Wales erbyn hyn, ar raglen Today ar BBC Radio 4.

Honnodd y ddau bod y cyfweliad gyda Mr Moffat yn 2012 yn gamarweiniol ac yn rhoi cyfle i hysbysebu menter fasnachol.

Fe wnaeth y Uned Gwynion Golygyddol y BBC dderbyn bod sail i'r gwyn ynglyn â Radio 4.

Image copyright S4C
Image caption Daeth prawf Gareth Edwards i'r canlyniad bod ganddo gysylltiadau â gwledydd yn nwyrain Ewrop

'Hyder' mewn prosesau gwyddonol

Mewn datganiad, dywedodd Comisiynydd Cynnwys S4C, Llion Iwan, mai prif bwrpas y prosiect yw "ceisio ychwanegu at ein dealltwriaeth o hanes y Cymry, a thaflu mwy o oleuni ar nifer o gwestiynau hanesyddol pwysig".

Dywedodd bod y rhaglen gyntaf yn "dechrau esbonio sut all dadansoddi DNA cyndadol gyfrannu at gynnig atebion".

"Mae gennym hyder ym mhrosesau gwyddonol ein partner Scotland's DNA i ddarparu canlyniadau dibynadwy trwy eu profion yn y labordy, ac i'n helpu ni i ddeall eu harwyddocâd.

"Mae'r dulliau gwyddonol sy'n cael eu defnyddio'n dechnoleg gyffredin, 'prif-ffrwd' sy'n cael ei derbyn gan nifer o arbenigwyr yn y maes, ac sydd wedi bod yn sail i raglenni tebyg i ddarlledwyr eraill, gan gynnwys y BBC."

Ychwanegodd bod cynhyrchwyr y rhaglen, Green Bay Media, yn cynnal trafodaethau gydag academyddion er mwyn "cymryd cyngor, i weld sut all yr ysgolheigion gyfrannu at y prosiect, a sut all data ein profion ni fod o fudd i'w gwaith nhw".

"Mae'r prosiect wedi sbarduno dadl, ac mae'r Athro Mark Thomas o Goleg y Brifysgol, Llundain wedi mynegi ei farn gref. Fe fyddwn yn ymweld â'r ddadl hon yn ystod y gyfres DNA Cymru.

"Os yw'r Athro Thomas neu'i gydweithwyr yn credu bod ganddynt gyfraniad positif i wneud i'r ymdrech o ddeall hanes y Cymry'n well trwy'r broses yma, fe fydd croeso cynnes iddyn nhw drafod hynny gyda ni."

Ar ôl sawl ymgais i gysylltu â Cymru DNA Wales, ni chafwyd ymateb.