Anogaeth i gadw enwau Cymraeg ar dai

Enwau tai

Mae cabinet Cyngor Ceredigion wedi pleidleisio o blaid polisi i annog perchnogion tai yn y sir i gadw enwau Cymraeg ar eu cartrefi yn eu cyfarfod fore Mawrth.

Fe gafodd Polisi Enwi a Rhifo Strydoedd yr awdurdod ei gymeradwyo yn 2007 gyda'r nod o "roi cyfeiriad swyddogol clir a diamwys ar bob eiddo yng Ngheredigion".

Mae'r polisi bellach yn cael ei ddiwygio er mwyn hyrwyddo'r iaith Gymraeg, ac mae'n annog perchnogion i ystyried rhoi enwau Cymraeg ar eu tai.

Cafodd y polisi ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad gan Bwyllgor Iaith yr awdurdod, ac fe fydd llythyr safonol dwyieithog yn cael ei yrru at bobl sydd wedi, neu am wneud cais i newid enw'u tai.

'Hanes a hunaniaeth'

Fe ddywed y llythyr: "Mae Ceredigion yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg. Golyga hyn fod yr iaith Gymraeg yn rhan annatod o fywyd dydd-i-ddydd yma.

"Ynghlwm a'r iaith Gymraeg, mae i'r ardal a'i phobl ddiwylliant, hanes a hunaniaeth gwbl unigryw. O ganlyniad mae enwau llefydd neu dai Cymraeg fel arfer yn cyfleu gwybodaeth am natur y lleoliad, ei hanes, diwylliant yr ardal neu'r sawl oedd yn arfer byw yna.

"Gall parchu enwau a thraddodiadau Cymraeg esmwytho'r broses integreiddio a chryfhau cysylltiadau cadarnhaol o fewn y gymuned.

"Mae llawer o berchnogion tai sy'n newydd i Gymru yn cael eu hunain yn berchen ar eiddo nad ydynt yn gallu ynganu ei enw neu wybod yr ystyr. Wrth allu deall y temtasiwn i gyfieithu neu newid yr enw i'r Saesneg, rydym yn awyddus i gynnig cyfle i chwi ail-ystyried cyn dod i benderfyniad ar y mater."

Does gan y cyngor mo'r hawl i orfodi trigolion i beidio newid enwau eu cartrefi.